Dyddiad cyhoeddi
• Mae ymchwil newydd yn dangos bod un o bob pedwar plentyn gweithwyr allweddol yng Nghymru yn byw mewn tlodi.
• Mae TUC Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithredu.

Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher) gan TUC Cymru yn dangos bod dros chwe deg mil o blant gweithwyr allweddol yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

Mae’r ffigur, sy’n seiliedig ar ddiffiniad Llywodraeth y DU o weithiwr allweddol, yn cynrychioli bron i un o bob pedwar plentyn gweithwyr allweddol (23.4%). Mae hyn yn uwch na’r ffigur ar gyfer y DU yn gyffredinol (20.6%) ac mae 40% yn uwch na’r rhanbarth sy’n perfformio orau (Dwyrain Lloegr).

Polisïau Llywodraeth y DU yn gwaethygu tlodi ymysg gweithwyr allweddol

Mae TUC Cymru yn dweud mai’r prif resymau dros dlodi ymysg teuluoedd gweithwyr allweddol yw cyflog isel ac oriau ansicr - amodau sy’n gyffredin mewn galwedigaethau fel gwaith gofal ac ar gyfer gyrwyr danfon nwyddau a staff adwerthu.

Mae costau tai uchel hefyd yn lleihau cyllidebau teuluoedd gweithwyr allweddol ar gyfer hanfodion fel nwyddau a biliau cyfleustodau. Ac nid yw cymorth drwy Gredyd Cynhwysol yn ddigon i sicrhau bod teuluoedd yn osgoi tlodi.

Mae polisïau cyfredol Llywodraeth y DU yn debygol o gynyddu cyfraddau tlodi plant – gan gynnwys cynlluniau i leihau’r Credyd Cynhwysol i deuluoedd ar incwm isel £20 yr wythnos ym mis Hydref.

Mae corff yr undeb yn rhybuddio y bydd y polisïau hyn yn arafu adferiad economaidd y wlad drwy leihau gwariant cartrefi. Bydd hyn yn atal gweithgarwch busnes ac yn effeithio ar dwf cyflogau gweithwyr eraill ar draws yr economi.

Rhaid i Lywodraeth Cymru wella cymorth ariannol

Mae TUC Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella ei rhaglenni cymorth ei hun ar gyfer pobl mewn trafferthion ariannol. Er nad yw lles wedi’i ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru yn gweinyddu taliadau cymorth brys drwy ei Chronfa Cymorth Dewisol. Ond mae proffil isel a meini prawf cymhwysedd llym y Gronfa wedi golygu bod llawer o bobl a fyddai’n elwa o’r cymorth wedi methu cael gafael arno.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Mae pob gweithiwr allweddol yn haeddu safon byw dda i’w teulu. Ond yn rhy aml, nid yw eu gwaith caled yn talu fel y dylai. Ac maent yn cael trafferth talu costau sylfaenol bywyd teuluol.

“Mae mwy i hyn na gwneud y peth cywir i weithwyr allweddol. Os byddwn yn rhoi mwy o arian ym mhocedi teuluoedd sy’n gweithio, bydd eu gwariant yn helpu i adfer ein busnesau a’n stryd fawr. Dyma sydd ei angen ar ein heconomi.

“Mae angen i’r llywodraethau ar ddau ben yr M4 wneud popeth o fewn eu gallu i newid pethau. Ac ar adeg pan mae’n ymddangos bod San Steffan yn cefnu ar weithwyr allweddol, mae’n bwysicach fyth bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau. Mae hynny’n golygu cyflymu ei agenda Gwaith Teg, gwneud popeth o fewn ei gallu i fynd i’r afael â gwaith ansicr, ac ehangu mynediad at ei chynlluniau cymorth ariannol brys.”

Angen cymorth ar gyfer teuluoedd gweithwyr allweddol

Mae TUC Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau safonau byw da ar gyfer teuluoedd gweithwyr allweddol drwy wneud y canlynol:

  • Codi’r isafswm cyflog cenedlaethol i o leiaf £10 yr awr ar unwaith
  • Darparu’r cyllid sydd ei angen fel bod pob gweithiwr gwasanaethau cyhoeddus yn cael codiad cyflog teg.
  • Ariannu’r sector cyhoeddus fel bod gweithwyr allanol yn cael y Cyflog Byw gwirioneddol o leiaf ac er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr un cyflog â gweithwyr sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol.
  • Canslo’r toriad o £20 i gredyd cynhwysol, a fydd yn taro teuluoedd ar incwm isel ym mis Hydref, a chyflwyno cynlluniau i gynyddu budd-dal plant yn uwch na chwyddiant bob blwyddyn ar draws y senedd.
  • Diwygio a chryfhau rhaglenni cymorth ariannol Llywodraeth Cymru.
Nodyn y golygyddion

- Plant mewn tlodi mewn cartrefi gweithwyr allweddol yn ôl gwlad a rhanbarth y DU

Rhanbarth

Plant mewn tlodi mewn teuluoedd gweithwyr allweddol

Cyfran y plant mewn tlodi mewn teuluoedd gweithwyr allweddol

Gogledd-ddwyrain Lloegr

56198

29.1%

Gogledd-orllewin Lloegr

101481

18.1%

Swydd Efrog a Humber

100214

24.9%

Dwyrain Canolbarth Lloegr

80653

21.2%

Gorllewin Canolbarth Lloegr

111577

25.2%

Dwyrain Lloegr

83,719

15.5%

Llundain

164,548

26.5%

De-ddwyrain Lloegr

143,372

18.7%

De-orllewin Lloegr

66,678

15.6%

Cymru

60,378

23.4%

Yr Alban

74,376

18.7%

CYFANSWM

1,062,586

20.6%

- Methodoleg: Cyfunodd Landman Economics wybodaeth gan Arolwg Gweithlu Llafur ac Arolwg Adnoddau Teulu (FRS) ar gyfer 2019/20 i gyfrifo nifer y plant sy’n byw mewn cartrefi gweithwyr allweddol a faint o’r cartrefi hynny sy’n byw mewn tlodi. Mae’r holl ffigurau’n seiliedig ar incwm cartrefi ar ôl costau tai.

Cyswllt:

Joe Allen

jallen@tuc.org.uk

078 775 295 68