Hysbysiadau Preifatrwydd, Prosesu a Chasglu Teg

Mae Cyngres Undebau Llafur Cymru (“TUC Cymru” neu’r “TUC”) yn trefnu ac yn gweinyddu cyllid ar gyfer cyrsiau addysg undebau llafur i swyddogion a chynrychiolwyr undeb o’i holl undebau cyswllt yng Nghymru.  Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer cyrsiau dan fathodyn y TUC a chyrsiau undebau unigol (gan gynnwys Unite, UNSAIN, PCS, GMB, Usdaw, UCU a chyrsiau undebau unigol eraill).  Caiff y cyrsiau hyn eu cyflwyno mewn partneriaeth â’n darparwyr addysg undebau llafur yng Nghymru – Addysg Oedolion Cymru (ALW) a Choleg Gwent (“darparwr y cyrsiau”).  TUC Cymru yw’r ‘rheolydd data’ a’r darparwr yw’r ‘prosesydd data’ at ddibenion y data sy’n cael ei gasglu oddi wrthych chi ar y ffurflen casglu data ar ddysgwyr unigol.

Er mwyn bod yn gallu darparu cyllid ar gyfer y cwrs yr ydych yn mynd arno a monitro pa gynrychiolwyr sy’n mynychu cyrsiau addysg undebau llafur, mae gofyn i TUC Cymru gael y wybodaeth orfodol ganlynol: eich enw, eich undeb, cyfeiriad eich cartref, manylion eich cyflogwr a chyfeiriad eich gweithle.

Mae TUC Cymru hefyd yn gofyn ichi ddarparu ychydig o wybodaeth ychwanegol er mwyn monitro cyfle cyfartal.   Cewch ddewis peidio â darparu’r wybodaeth hon os dymunwch, ond byddem yn eich annog i’w darparu gan mai at ddibenion monitro’n unig y cesglir y wybodaeth hon a chaiff ei thrin yn gwbl gyfrinachol fel y nodir isod.
Yn olaf, mae’r TUC hefyd yn darparu gwasanaeth hysbysiadau e-bost i ddosbarthu negeseuon achlysurol gyda manylion cyrsiau, gwybodaeth am ddigwyddiadau ac adnoddau y credwn eu bod yn berthnasol i’ch rôl fel cynrychiolydd undeb.  Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn cysylltu â chi i gymryd rhan mewn ymchwil sy’n ymwneud ag addysg undebau llafur a/neu â’ch rôl.  Byddwn yn anfon cyn lleied â phosibl o negeseuon e-bost atoch a gallwch ganslo eich tanysgrifiad ar unrhyw adeg.  Anogwn bob cynrychiolydd i ymuno â’r gwasanaeth hysbysiadau e-bost fel eich bod yn ymwybodol o’r cyfleoedd dysgu.

Bydd tiwtor eich cwrs yn cydgasglu’r ffurflen a lenwch a bydd darparwr eich cwrs yn ei phasio ymlaen inni yn ddiogel.  Bydd TUC Cymru yn storio eich data yn ddiogel ar ffurf electronig.  Bydd TUC Cymru yn defnyddio’r wybodaeth hon at nifer o ddibenion fel y nodir isod.  Mae gofyn inni hefyd rannu rhywfaint o’r data â’n cyllidwyr (Llywodraeth Cymru), gyda darparwr y cwrs a gyda’ch undeb.  Caiff y data ei rannu’n ddiogel pan fo angen ac ni chaiff byth ei roi i unrhyw drydydd partïon eraill heblaw gyda’ch caniatâd penodol chi ymlaen llaw.

Sut caiff fy ngwybodaeth ei defnyddio, a gyda phwy y caiff ei rhannu?

  • I weinyddu a chadarnhau pwy sy’n gymwys am gyllid (fe’i defnyddir gan TUC Cymru a gellir ei rhannu â darparwyr cyrsiau, Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr y mae’n eu penodi).
  • I gynorthwyo â’r gwaith o gynllunio a monitro’r dysgu (fe’i defnyddir gan TUC Cymru a gellir ei rhannu â darparwyr cyrsiau, Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr y mae’n eu penodi a’ch undeb chi).
  • I werthuso ac ymchwilio i addysg undebau llafur (fe’i defnyddir gan TUC Cymru a gellir ei rhannu â gwerthuswyr/ymchwilwyr y mae’n eu penodi, darparwyr cyrsiau, Llywodraeth Cymru a gwerthuswyr/ymchwilwyr y mae’n eu penodi a’ch undeb chi).
  • I ddarparu gwybodaeth achlysurol drwy e-bost am ddigwyddiadau/hyfforddiant addysg undebau llafur ynghyd â gwybodaeth ac adnoddau gan TUC Cymru sy’n berthnasol i’ch rôl fel cynrychiolydd undeb (fe’i defnyddir gan TUC Cymru yn unig).

Ni chedwir eich data personol am ddim mwy nag sy’n angenrheidiol at y dibenion a restrir uchod.

Eich hawliau: Dan Reoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data y Deyrnas Unedig (GDPR y DU) mae gennych hawliau o safbwynt y data y mae sefydliadau yn ei gadw amdanoch, sut caiff y wybodaeth hon ei defnyddio a’i chadw, a hawl i ofyn am weld gwybodaeth a ddelir amdanoch chi ynghyd â hawl i dynnu eich cydsyniad yn ôl. Mae gwybodaeth bellach ynglŷn â’ch hawliau dan GDPR y DU i’w chael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’ch data cysylltwch â:

TUC Cymru, 3ydd Llawr, 1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9SD.

Ffôn: 0290347010 e-bost: wtuc@tuc.org.uk