Iechyd Meddwl a Llesiant: Rhannu cymorth mewn cyfnodau o angen
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Tue, 13 Oct 2026 - 09:30 to 15:00
Cost
Am ddim
Trosolwg

Ymunwch â ni yn nigwyddiad Iechyd Meddwl a Llesiant Rhwydwaith Cynrychiolwyr Gogledd Cymru TUC Cymru.

Lleoliad: Village Hotel St David's, Ewloe

Amser: 09:30 to 15:00

Dyddiad: Dydd Mawrth 13 Hydref 2026

Byddwn yn rhannu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i undebwyr llafur ar adegau o angen, a byddwn yn cyflwyno sgyrsiau ysbrydoledig gan ffigurau amlwg ym maes Chwaraeon yng Nghymru a'r maes Iechyd a Llesiant. Ein prif siaradwr yw Dr Helen Jones (ymarferydd Iechyd Meddwl blaenllaw). Cyhoeddir rhagor o siaradwyr ysgogol yn fuan.

Byddwn hefyd yn clywed gan ymarferwyr proffesiynol am y cymorth sydd ar gael pan fydd pethau'n newid, a byddwch yn gallu siarad â sefydliadau sy'n gallu rhoi cyngor ac arweiniad yn eu meysydd arbenigol.

Darperir lluniaeth a chinio.

Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, felly cofrestrwch cyn gynted â phosibl.

Mae’r cyfarfod yn agored i bob cynrychiolydd, ymgyrchydd, swyddog ac aelod yng Nghymru.

Lleoliad
Iechyd Meddwl a Llesiant: Rhannu cymorth mewn cyfnodau o angen

Village St David's Hotel
St David's Business Park
Ewloe
CH5 3YB
Y Deyrnas Unedig

Hygyrchedd

We want everyone attending TUC events to have a safe and enjoyable experience. If you require any adjustments or assistance to participate at this event, please let us know.