Dyddiad: Dydd Iau 22 Hydref 2026
Amser: 1 pm – 2 pm
Lleoliad: Ar-lein dros Zoom
Ymunwch â ni yn y weminar dros ginio lle byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth am Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) 2026, ac yn trafod beth gall cyflogwyr ac undebau ei addasu i wneud gweithleoedd yn fwy cynhwysol i weithwyr Byddar.
Cafodd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ei chydnabod fel iaith yn 2003, ac yn gyfreithiol fel un o ieithoedd swyddogol Prydain yn 2022. Mae’n iaith unigryw ac wedi bod yn cael ei defnyddio ers cannoedd o flynyddoedd. Nid fersiwn o’r Saesneg yw BSL. Mae ganddi ei gramadeg, ei chystrawen a’i geirfa unigryw ei hun. Mae hyn yn golygu, nad yw Saesneg ysgrifenedig yn aml yn hygyrch i ddefnyddwyr BSL iaith gyntaf.
Er bod pwysigrwydd cynhwysiant BSL ymysg y cyhoedd yn cael ei gydnabod fwyfwy, mae llawer o weithwyr sy’n defnyddio BSL yn dal i wynebu rhwystrau a gwahaniaethu sylweddol yn y gweithle.
Bydd y Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) newydd a basiwyd gan y Senedd yn gynharach eleni yn sefydlu fframwaith newydd i gefnogi a hyrwyddo’r defnydd o BSL yng Nghymru, ac yn cynnig cyfleoedd sylweddol i greu newid cadarnhaol.
Bydd y digwyddiad yn edrych ar y canlynol:
Bydd y siaradwyr yn cynnwys:
Pwy ddylai ddod?
Mae’r weminar ar-lein wedi’i hanelu at gynrychiolwyr undebau llafur yn y gweithle ond mae’n agored i bob undebwr llafur yn ogystal ag aelodau o’r gymuned Fyddar a BSL, ac eraill sydd â diddordeb mewn cydraddoldeb i Bobl Fyddar.
The event will be held online on Zoom and BSL interpreters and speech to text reporting will be provided.
If you have any specific access requirements please inform us on the registration form.
We want everyone attending TUC events to have a safe and enjoyable experience. If you require any adjustments or assistance to participate at this event, please let us know.