Pan fydd grŵp o weithwyr yn gweithredu ac yn siarad gyda’i gilydd, rhaid i’w cyflogwr wrando. Dyna sut mae undebau’n gwneud pethau’n well yn y gwaith.
Workers

Felly beth am ddarganfod pa undeb yw’r un iawn i chi, casglu grŵp o ffrindiau ynghyd yn eich gweithle, ac ymuno ag undeb?

Mae mwy na 6 miliwn o bobl mewn undeb - o nyrsys i weithwyr desgiau talu i yrwyr lorïau i beilotiaid awyrennau. Mae undebau’n helpu pobl i ddod ynghyd, yn atal pobl rhag cael eu trin yn annheg ac yn cael gwell bargen gan eu cyflogwyr.

Onid yw hi’n bryd i chi ymuno ag undeb?

Pethau i’w nodi:

  • Mae gennych hawl gyfreithiol i ymuno ag undeb. Mae’n anghyfreithlon i gyflogwr eich rhoi o dan anfantais am eich bod yn aelod o undeb.
  • Efallai fod rhai undebau yn cyfyngu ar y sawl sy’n cael ymuno. Fel arfer mae hyn am eu bod yn cynrychioli pobl mewn swyddi arbenigol.
  • Yn gyffredinol, nid yw undebau’n gallu helpu pobl gyda phroblem a ddigwyddodd cyn iddyn nhw ymuno â’r undeb.
     

Dod o hyd i’r undeb iawn i chi nawr