Bydd Cyngres Cymru TUC Cymru 2021 yn cael ei chynnal ar-lein ar 25 a 26 Mai.
Congress

Mae Cyngres TUC Cymru yn dod â chynrychiolwyr etholedig 400,000 o aelodau undebau llafur Cymru at ei gilydd i drafod y cyfleoedd a’r heriau sydd o’n blaenau a phennu blaenoriaethau’r mudiad ar gyfer Cymru.

Mae’r agenda ar gyfer y Gyngres Arbennig hon yn adlewyrchu’r amgylchiadau eithriadol presennol. Byddwn yn trafod sut gallwn gryfhau ein gwasanaethau cyhoeddus a dechrau adferiad economaidd gwyrdd a theg ar ôl heriau enfawr y flwyddyn ddiwethaf. Byddwn yn trafod sut gallwn barhau i gefnogi ein haelodau yn y ffordd orau yn ystod y cyfnod anodd hwn, a sut gallwn ni ymgyrchu gyda’n gilydd i sicrhau cynnydd yn agenda uchelgeisiol Gwaith Teg Cymru.

Byddwn yn clywed gan gydweithwyr undebau llafur o bob rhan o'r DU ac Iwerddon yn ogystal â siaradwyr arbenigol o bob rhan o gymdeithas sifil.

Mae’r gyngres yn cael ei darlledu ar-lein am y tro cyntaf, ac rydyn ni’n anfon gwahoddiad agored at bawb i ymuno â ni – p’un ai ydych chi’n aelod o undeb ai peidio.