Gall yr argyfwng fod yn arbennig o frawychus i ferched sy'n mynd drwy feichiogrwydd. Gall yr argyfwng fod yn fater o fyw neu farw i ferched sy'n gweithio mewn swyddi allweddol. Diolch i gyngor dryslyd a gwrthdrawiadol ynglŷn â pha mor bell i’w beichiogrwydd y dylai menyw weithio, dydy rhai cyflogwyr ddim wedi caniatáu addasiadau rhesymol ar gyfer gweithwyr sy'n feichiog.
Pregnancy, maternity and work during the Covid-19 crisis

Gall beichiogrwydd lethu’r system imiwnedd, felly mae’n rhaid cymryd rhagofalon ychwanegol.  Dylai’r canllawiau ar gyfer y gweithle fod yn glir na ddylai unrhyw un sy’n feichiog fod yn gweithio ar y rheng flaen na chymysgu â'r cyhoedd yn ystod yr argyfwng hwn.  Yn ystod yr argyfwng hwn gwelwyd marwolaeth gweithwyr sy’n feichiog yn sgil Covid-19.  Hiliaeth systemig, diffyg cyfarpar diogelu personol ac esgeuluso gofal a arweiniodd at y marwolaethau hyn, ac mae Undebau Llafur yn arwain yr ymgyrch i warchod gweithwyr sy'n feichiog. 

Problemau sy'n wynebu gweithwyr sy’n feichiog

Mae Undebau wedi gweld bod rhai cyflogwyr wedi bod yn rhoi menywod beichiog ar ffyrlo neu’n eu gyrru adref ar Dâl Salwch Statudol.  Mae hyn yn torri hawliau menywod o dan gyfreithiau iechyd a diogelwch.  Lle nodwyd bod risg, ac yn yr achos hwn cysylltiad â coronafeirws, rhaid i’r cyflogwr gymryd camau rhesymol fel addasu amodau gwaith neu oriau gwaith os bydd hyn yn osgoi dod i gysylltiad â’r risg.

Os nad yw’n rhesymol addasu’r amodau gwaith neu oriau gwaith, neu os na fyddai gwneud hynny'n helpu i osgoi’r risg (yn yr achos hwn cysylltiad â Coronafeirws) yna mae’n rhaid i’r cyflogwr diswyddo’r gweithiwr o’i waith dros dro ar gyflog llawn cyhyd ag y bydd angen er mwyn osgoi risg o’r fath. Mae’r ddarpariaeth hon yn cael ei nodi yn y Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996.

Mae undebau’n helpu miloedd o fenywod beichiog, ac mae rhai o’r materion a godwyd yn cynnwys:

  • Mae gan fenywod beichiog hawl i gael 100% o’u cyflog arferol os nad ydynt yn gallu gweithio am resymau iechyd a diogelwch, ond yn hytrach na gwneud hynny mae rhai cyflogwyr wedi ceisio talu 80% o'u henillion cyfartalog neu Dâl Salwch Statudol i fenywod beichiog. 
  • Mae menywod yn colli allan ar gyflog nawr ac yn y rhan fwyaf o achosion ni fyddant wedyn yn gymwys am Dâl Mamolaeth Statudol am fod eu henillion yn rhy isel yn ystod eu cyfnod cymhwyso.
  • Ni ddylai bod ar ffyrlo effeithio ar hawliau mamolaeth, ond mae aelodau Undebau Llafur wedi adrodd eu bod wedi gweld enghreifftiau lle gorfodwyd menywod i ddechrau eu habsenoldeb mamolaeth yn gynnar neu lle cafodd menywod 80% o’u tâl mamolaeth, yn lle'r swm llawn mae ganddynt hawl iddo.   Mae gan weithwyr beichiog hawl i’r un tâl mamolaeth yr oeddynt yn ei ddisgwyl, hyd yn oed os ydyn nhw ar ffyrlo.
  • Mae gweithwyr beichiog yn y sector preifat a’r trydydd sector a gweithwyr allweddol wedi adrodd eu bod nhw’n teimlo bod pobl yn gwahaniaethu yn eu herbyn.  Ymysg y problemau mae diffyg cyfarpar diogelu personol i’w gwarchod, gwrthod ceisiadau i weithio gartref neu gael eu gorfodi i wneud penderfyniadau sy'n effeithio’n anghymesur arnynt yn ariannol.

Hawliau gweithwyr beichiog

Ydw i’n cael fy ngwarchod rhag triniaeth annheg, diswyddo a dileu swydd?

Mae’r gyfraith yn eich gwarchod rhag triniaeth annheg a diswyddo os ydy hyn ar sail eich beichiogrwydd a mamolaeth, waeth pa mor hir rydych chi wedi bod yn gweithio i’ch cyflogwr.

Mae hyn yn golygu os ydych chi’n cael eich diswyddo tra byddwch yn feichiog neu ar seibiant mamolaeth, rhaid i’ch cyflogwr roi’r rheswm ar bapur.

Os gellir cysylltu'r diswyddiad â’ch beichiogrwydd neu famolaeth, gallech wneud cais am ddiswyddiad annheg ac anffafriaeth mewn tribiwnlys cyflogaeth.

Ni ddylech gael eich dewis yn annheg ar gyfer ffyrlo neu ddiswyddiad tra byddwch yn feichiog neu ar seibiant mamolaeth.

Os ydych yn cael eich diswyddo tra byddwch ar seibiant mamolaeth, rhaid cynnig swydd arall addas i chi yn gyntaf – yn hytrach na gweithwyr eraill y mae eu swyddi wedi cael eu dileu. Os nad yw eich cyflogwr yn gwneud hyn, gall eich diswyddiad gael ei ystyried yn annheg yn awtomatig. Os ydych yn cael eich diswyddo cyn mynd ar seibiant mamolaeth, dylech gael eich trin yr un fath â’ch cydweithwyr. Os ydy penderfyniadau diswyddo’n cael eu gwneud ar sail eich beichiogrwydd neu salwch sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd, byddai hynny'n wahaniaethu anghyfreithlon ar sail beichiogrwydd.

Os ydych yn aelod o undeb llafur, byddwn yn eich annog i siarad â’ch cynrychiolydd yn y gweithle cyn gynted â phosibl. Nid yw’n effeithio ar eich hawliau eraill. Am restr ohonynt, ewch i wefan ACAS.

Ewch i wefan ACAS.

Beth ddylai eich cyflogwr ei wneud

Gallech wynebu risg uchel o ddal coronafeirws os ydych yn feichiog.  Mae hyn yn golygu er nad ydych yn fwy tebygol o ddal y feirws na'r boblogaeth gyffredinol, gall beichiogrwydd mewn cyfran fach o fenywod newid y ffordd mae eich corff yn delio â heintiau feirysol.

Gall eich bydwraig neu dîm gofal iechyd roi’r cyngor diweddaraf i chi am fynychu apwyntiadau cyn geni. 
Mae’n rhaid i gyflogwyr weithredu o fewn fframwaith cyfreithiol mewn perthynas â gweithwyr beichiog a mamau sy'n bwydo ar y fron.

Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyflogwyr i asesu risgiau’r gweithle ar gyfer gweithwyr beichiog a’u plant heb eu geni, a mamau sy'n bwydo ar y fron sydd wedi dychwelyd i weithio.

Rhaid iddynt adolygu’r risgiau hyn yn barhaus wrth i amgylchiadau newid ac wrth i’r beichiogrwydd fynd yn ei flaen, os yw'n berthnasol. Dylent ddilyn y pedwar cam canlynol os canfyddir bod risgiau, fel dod i gysylltiad â COVID-19:

  1. Rhaid iddynt geisio cael gwared ar y risgiau, neu eich atal rhag dod i gysylltiad â nhw.
  2. Os nad oes modd gwneud hynny, dylent addasu eich amodau gwaith dros dro fel eich bod yn gallu gweithio o’ch cartref.
  3. Os nad oes modd gwneud hynny, dylent gynnig swydd arall addas i chi gyda’r un cyflog os oes un ar gael.
  4. Os nad oes unrhyw un o’r opsiynau hyn yn bosib, rhaid iddynt eich gwahardd ar gyflog llawn am y cyfnod sy’n angenrheidiol i warchod eich iechyd a diogelwch neu iechyd a diogelwch eich babi. Dylai eich cyflog llawn fod yn seiliedig ar eich enillion arferol, nid tâl sy'n seiliedig ar oriau eich contract.

Os oes risg iechyd a diogelwch sy'n eich rhwystro rhag gwneud eich gwaith a dim modd eich symud i swydd arall, dylech gael eich gwahardd ar 100% o’ch cyflog arferol.

Fodd bynnag, os ydych chi’n cael eich rhoi ar ffyrlo am nad oes risg iechyd a diogelwch penodol ond bod eich cyflogwr yn cael ei effeithio e.e. gan ddiffyg galw neu drwy gyflawni gwaith nad yw’n hanfodol, dylech gael eich rhoi ar ffyrlo ar yr un telerau â’ch cydweithwyr sydd ddim yn feichiog.

Pregnancy and work during Covid-19

Os ydy eich cyflogwr yn ceisio eich gorfodi i fynd i weithio neu’n eich disgyblu am beidio â mynd i weithio, gallai hynny fod cyfystyr â gwahaniaethu anghyfreithlon ar sail beichiogrwydd.

Os nad oes modd dileu nac atal risgiau, ac os nad oes gwaith arall ar gael, ni ddylai gweithwyr beichiog gael eu rhoi ar dâl salwch. Os mai dyna sydd wedi digwydd i chi (h.y. dydy camau 1 i 3 ddim yn bosibl), dylech gael eich gwahardd ar gyflog llawn.

Gallai Tâl Salwch Statudol effeithio ar eich cymhwyster ar gyfer Tâl Mamolaeth Statudol oherwydd gallai eich incwm cyfartalog fod yn is na’r trothwy cymhwyso – y Terfyn Enillion Isaf yw £118 yr wythnos. Mae hyn yn cael ei gyfrifo dros gyfnod cymhwyso o wyth wythnos rhwng wythnosau 18 i 26 o’r beichiogrwydd.

Cael help fel gweithiwr beichiog

Os ydych yn feichiog neu os ydych yn fam newydd siaradwch â'ch cynrychiolydd neu eich undeb os oes angen help arnoch neu os oes gennych gwestiynau am eich hawliau neu'ch gwaith.

Gallwch hefyd gysylltu â Maternity Action, elusen sy'n ymgyrchu dros hawliau menywod beichiog, mamau newydd a'u teuluoedd. Darllenwch cwestiynau cyffredin beichiogrwydd a mamolaeth coronafeirws Maternity Action (yn Saesneg). Mae'r rhain yn cynnwys cyngor ar iechyd a diogelwch, ffyrlo, dechrau a dychwelyd o gyfnod mamolaeth, tâl mamolaeth, manteision i fenywod hunangyflogedig a'r budd-daliadau lles sydd ar gael.
 
Mae gan Maternity Action linell gymorth hefyd y gallwch ei ffonio ar 0808 802 0029. Mae'r llinell gymorth ar agor ar ddydd Llun a dydd Mawrth 4-7pm a dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener rhwng 10am ac 1pm.

Darllenwch ein hadroddiad ar feichiog ac yn ansicr: profiadau mamau newydd a beichiog o waith yn ystod Covid-19

Beth yr ydym yn gofyn i’r Llywodraeth ei wneud

Rydym yn poeni bod rhai cyflogwyr yn herio’r gyfraith.  Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i warchod incwm, swyddi ac iechyd menywod beichiog.

Rydym am weld Llywodraeth y DU yn cymryd y camau canlynol:

1.    Os nad ydy gweithwyr beichiog yn gallu gweithio oherwydd risgiau iechyd a diogelwch, mae’r gyfraith yn nodi y dylid eu hatal o’r gwaith ar gyflog llawn. Dylai'r Llywodraeth ymestyn y cynllun cadw swyddi fel bod cyflogwyr yn gallu hawlio 80% o gyflogau’r gweithwyr hyn. Fodd bynnag, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith bod cyflogwyr yn parhau i dalu cyflog llawn i’r gweithiwr beichiog dan sylw.
2.    Cymryd camau gweithredol i godi ymwybyddiaeth o amddiffyniadau cyfreithiol presennol i weithwyr beichiog a rhoi sicrwydd i fenywod beichiog y byddant yn cael eu gwarchod rhag cael eu gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth.

Mae’r TUC am weld bod y mesurau hyn yn berthnasol i bob gweithiwr beichiog, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio’n rhan-amser, y rhai sy’n gwneud gwaith asiantaeth neu waith ansicr a’r rhai sy’n gymwys fel gweithwyr hunangyflogedig.

Rhaid i’r camau hyn fod yn rhan o strategaeth ehangach i ddiogelu iechyd a diogelwch pobl yn y gweithle, gan gynnwys canllawiau cryfach gan y llywodraeth (wedi’u hategu gan reoliadau) ynghylch y mesurau diogelwch y mae’n rhaid i bob cyflogwr eu hystyried nawr a phwerau newydd (drwy rwydwaith tridarn, sy'n cynnwys cyflogwyr, undebau a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch) i’r llywodraeth gymell cyflogwyr nad ydynt yn dilyn y camau hyn i gau.

 

Darllen Mwy

 

Rhowch wybod am eich profiad

Ydych chi’n poeni nad ydych chi’n gallu aros yn ddiogel rhag y coronafeirws yn eich gweithle?  Dywedwch wrthym am eich profiadau drwy ddefnyddio ein ffurflen datgelu.

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth am eich pryderon iechyd a diogelwch yn ddienw â Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Os byddwch yn rhoi caniatâd i rannu eich manylion, byddwn hefyd yn adrodd y mater i’ch undeb llafur ar eich rhan. 
 

Llenwch ein ffurflen yma...

Ymuno ag undeb

Mae undebau’n helpu pobl i ddod ynghyd, yn atal pobl rhag cael eu trin yn annheg ac yn cael gwell bargen gan eu cyflogwyr.

Maen nhw yno yn ystod cyfnodau anodd – yn rhoi cyngor cyfreithiol am ddim os oes angen. Gall aelodau o undeb fanteisio ar lawer o gynigion a gostyngiadau hefyd. A phob blwyddyn, bydd undebau’n helpu dros 200,000 o bobl i gael gafael ar y cyfleoedd dysgu a hyfforddi sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen yn eu gyrfa.

Onid ydy hi’n amser i chi ymuno ag undeb?

Mae gennych hawl gyfreithiol i ymuno ag undeb os ydych yn dymuno. Mae’n anghyfreithlon i gyflogwr eich rhoi o dan anfantais mewn unrhyw ffordd am eich bod yn aelod o undeb.

Dod o hyd i undeb nawr

Gwybodaeth bellach:

Maternity Action – Ers dechrau’r pandemig Covid-19 mae Maternity Action wedi gweld galw eithriadol am eu llinell gyngor Hawliau Mamolaeth. Darllenwch eu cwestiynau cyffredin yn Saesneg ar hawliau yn y gwaith a budd-daliadau yn ystod beichiogrwydd ac absenoldeb mamolaeth yn ystod pandemig Covid-19. Mae’r cwestiynau hyn hefyd ar gael yn: