Mae TUC Cymru wedi creu pecyn cymorth i hybu ymwybyddiaeth o awtistiaeth yn y gweithle. Bydd hi'n helpu swyddogion a chynrychiolwyr undebau i gynrychioli aelodau awtistig neu rai sydd â pherthnasau agos awtistig.
Front cover of Wales TUC's new Autism Awareness toolkit
Wales TUC's new Autism Awareness toolkit will help union reps

Mae TUC Cymru wedi creu pecyn cymorth newydd o'r enw Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth yn y Gweithle. Nod y pecyn cymorth hwn yw rhoi gwybodaeth i helpu swyddogion a chynrychiolwyr undebau yng Nghymru i gynrychioli aelodau awtistig neu rai sydd â  pherthnasau agos awtistig.

Bydd y pecyn cymorth yn helpu cynrychiolwyr i ddeall problemau yn y gweithle a all effeithio ar bobl awtistig a bydd yn rhoi iddynt yr wybodaeth a’r arweiniad sydd eu hangen arnynt i’w helpu i fynd i’r afael â’r problemau hynny.

Lawr-lwythwch y pecyn Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth yn y Gweithle 

Awtistiaeth yn y Gweithle

Mae awtistiaeth yn derm sy’n disgrifio ystod eang o gyflyrau sy’n adlewyrchu gwahaniaethau niwrolegol ymhlith pobl. Gelwir y rhain yn gyflyrau’r sbectrwm awtistig (ASCau).

Mae awtistiaeth, ynghyd â chyflyrau niwrolegol eraill fel dyslecsia, dyspracsia ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), i gyd yn enghreifftiau o ‘niwroamrywiaeth’.

Mae niwroamrywiaeth yn derm cymharol newydd sy’n cyfeirio ar amrywiaeth yr ymennydd dynol. Mae hyn yn golygu bod ystod eang o wahaniaethau yn y ffordd mae ymennydd pobl yn gweithio. Mae niwroamrywiaeth yn cydnabod bod ymennydd rhai pobl wedi cael eu weirio’n wahanol.

Mae gan 1 o bob 100 o bobl gyflyrau sbectrwm awtistiaeth
Mae gan 1 o bob 100 o bobl gyflyrau sbectrwm awtistiaeth

Amcangyfrifir fod 31,000 o bobl ag ASCau yng Nghymru, ac mae nifer cynyddol o bobl mewn gwaith wedi cael diagnosis ffurfiol.

Hefyd, mae llawer o bobl â’r cyflwr sydd, am amrywiaeth o resymau, heb gael diagnosis ffurfiol.

Mae llawer o weithwyr yn rhiant neu’n ofalwr i rywun ag awtistiaeth.

Gall rhwystrau sy’n cael eu rhoi yn ffordd gweithwyr sydd â chyflyrau’r sbectrwm awtistig gael effaith negyddol ar eu bywydau yn y gwaith. Ac mae rhai’n cael eu hatal rhag gweithio, a hynny’n unig oherwydd eu cyflwr.

Mae gan undebau llafur rôl allweddol i’w chwarae i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth yn y gweithle ac i atgyfnerthu’r hawliau sy’n diogelu pobl.

Dim ond 16% oedolion awtistig sydd mewn swyddi amser llawn.

Dim ond 16% oedolion awtistig sydd mewn swyddi amser llawn. Mae gan 16% swyddi rhan amser. 

Mae 77% o’r rheini sy’n ddi-waith yn dweud eu bod yn awyddus i weithio.

Sut y gall gweithleoedd gefnogi pobl ag awtistiaeth

Defnyddiwch ein pecyn cymorth Ymwybyddiaeth awtistiaeth yn y gweithle i gael gwybod mwy am sut y gallwch gefnogi pobl awtistig yn eich gweithle.