Issue date

Wrth ymateb i adroddiad Step Change, ‘Wales in the Red’ heddiw, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Martin Mansfield:

Mae adroddiad heddiw yn dangos yn glir sut mae’r wasgfa ariannol wedi gwthio llawer o deuluoedd i ddioddefaint ariannol.

"Wrth i bobl sy’n gweithio wynebu’r wasgfa hwyaf ar eu hincwm ers y 1870au, mae dyled yn anochel i nifer o bobl.  Wrth gymharu prisiau dros y cyfnod hwn, mae cyflogau yng Nghymru wedi gostwng 12.5% ar gyfartaledd ers 2008.

“O ystyried y materion hyn ochr yn ochr â’r toriadau i fudd-daliadau, mae pobl yn cael anawsterau i dalu eu taliadau sylfaenol, gydag ôl-ddyledion rhent, morgeisi a biliau ynni yn cynyddu. 

“Mae angen Codiad Cyflog ar Brydain fwy nac erioed o’r blaen."

ENDS