Dyddiad cyhoeddi
Ysgrifennydd Cyffredinol newydd TUC Cymru fydd Laura Doel; hi ydy Ysgrifennydd Cenedlaethol Cymru NAHT a Llywydd TUC Cymru ar hyn o bryd.

Bydd Laura Doel yn cael ei phenodi yn Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru

  • Ar hyn o bryd Laura Doel ydy Ysgrifennydd Cenedlaethol Cymru Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT) a Llywydd presennol TUC Cymru
  • Dechreuodd ei gyrfa fel newyddiadurwr yn gweithio fel gohebydd dan hyfforddiant yn y Merthyr Express cyn gweithio ar sawl teitl gan gynnwys y South Wales Argus
  • Bydd yn cymryd lle Shavannah Taj a etholwyd i Senedd Cymru yn dilyn etholiad mis Mai

Pwy yw Laura Doel?

Laura Doel
Laura Doel

Ysgrifennydd Cyffredinol newydd TUC Cymru fydd Laura Doel; hi ydy Ysgrifennydd Cenedlaethol Cymru NAHT a Llywydd TUC Cymru ar hyn o bryd.

A hithau’n undebwr llafur angerddol ac yn ymgyrchydd addysg, cychwynnodd Laura ar ei gyrfa ym maes newyddiaduraeth, gan weithio mewn sawl papur newydd cyn symud i fyd gwleidyddiaeth.

Roedd cyfnod mewn Llywodraeth Leol wedi ailgynnau cariad at ymgyrchu a gweithredu cymdeithasol a arweiniodd at yrfa yn y mudiad undebau llafur. Cychwynnodd Laura ar yr yrfa honno fel trefnydd Unsain, yna fel trefnydd NAHT Cymru cyn dod yn Ysgrifennydd Cenedlaethol i’r gymdeithas honno chwe blynedd yn ôl.

Yn ei rôl fel Ysgrifennydd Cenedlaethol, daliodd Laura nifer o rolau allweddol gan gynnwys sedd NAHT Cymru ar Gyngor Cyffredinol TUC Cymru, yn ogystal â nifer o swyddi undebol allweddol Llywodraeth Cymru o dan ddeddfwriaeth partneriaeth gymdeithasol gan gynnwys y Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol, y Fforwm Partneriaeth Tâl, y grwpiau negodi llwyth gwaith, a’r Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol Ysgolion.

Cafodd ei geni a’i magu yn Aberbîg, ger Abertyleri, ac mae hi bellach yn byw yn y Rhath, Caerdydd gyda’i dwy ferch.  Aeth i Ysgol Gyfun Abertyleri cyn mynd i’r coleg yng Nglynebwy a Phont-y-pŵl.  Daw Laura o linell hir o undebwyr llafur. Mae hi’n falch o allu dweud mai hi yw’r swyddog undeb llafur cyntaf sy’n fenyw yn ei theulu, ac mae hi’n dilyn ôl troed ei thad, ei theidiau a’i theulu ehangach a fu oll yn gweithio ym maes gweithgynhyrchu, pyllau glo lleol, gwaith dur, a llywodraeth leol.
 

 

Cynrychioli undebwyr llafur Cymru  

Dywedodd Laura Doel, Ysgrifennydd Cyffredinol newydd TUC Cymru:

“Mae’n anrhydedd i mi gael fy mhenodi i rôl Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at gynrychioli bron i 400,000 o undebwyr llafur yng Nghymru wrth i ni weithio gyda’n gilydd i greu Cymru sy’n gweithio i bawb. 

“Rwy’n credu bod yr Undebau Llafur yn bwysicach nag erioed. Mae Cymru’n wynebu cyfnod o newid sylweddol, gyda llywodraeth newydd, pwysau parhaus ar gyflogau, a byd gwaith sy’n cael ei drawsnewid o’i gymharu â’r hyn a fu o’r blaen. 

“Mae angen i weithwyr Cymru wybod bod rhywun ar eu hochr nhw, ac edrychaf ymlaen at ymgymryd â’r her honno dros yr wythnosau nesaf.”