Mae Cymru ar ei gorau pan rydym yn unedig.
United Cymru banner

Cofrestrwch ar gyfer eich posteri a'ch sticeri United Cymru 

Mae ein hanes yn dangos beth allwn ni ei gyflawni pan fyddwn ni’n rhoi ein gwahaniaethau o’r neilltu ac yn gweithio gyda’n gilydd tuag at nod cyffredin –  gwyliau â thâl, gweithleoedd mwy diogel, cael prydau ysgol a ariennir gan y llywodraeth, a chadw cartrefi gofal ar agor.

Ni chafodd dim o hyn ei roi yn ein dwylo. Fe frwydron ni, gyda’n gilydd. Ac fe enillon ni gyda’n gilydd.

 

 

Heddiw, mae ein undod mewn nerth dan fygythiad. Mae rhaniad a chamwybodaeth ar gynnydd yn ein cymunedau, gweithleoedd ac ar-lein.  

Mae pob un ohonom yng Nghymru eisiau'r un pethau – cyflogau teg, cartrefi fforddiadwy, a dyfodol llewyrchus i’n plant.

Mae cynnydd yn anoddach pan na fyddwn yn gytûn. Ond, drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn greu newid ac adeiladu Cymru sy’n gweithio i bawb.

Os ydych chi’n credu bod Cymru unedig yn Gymru gryfach, ymunwch â’n hymgyrch United Cymru heddiw.

Cofrestrwch ar gyfer eich posteri a'ch sticeri United Cymru 

Gadewch i ni ddangos i'r i’r byd ein bod ni i blaid Cymru unedig am byth.