Gradd: Uwch-swyddog Gweithredol yn y Gwasanaeth Sifil, (Llawnamser)
Mae’n para 2 flynedd.

Lleoliad: Mae’r swydd yn un Cymru gyfan a gall deiliad y swydd weithio yn unrhyw un o Swyddfeydd Llywodraeth Cymru.  Fodd bynnag, disgwylir y byddai’r ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yng Nghaerdydd 1-2 ddiwrnod yr wythnos.

Yn ystod y secondiad, bydd deiliad y swydd yn parhau ar delerau, amodau a chyflogres ei sefydliad cartref. Ni fydd unrhyw secondai sy’n ymuno yn gymwys i gael dyfarniadau cyflog Llywodraeth Cymru.

Rydym eisiau penodi aelod o’r tîm ar secondiad o’r mudiad undebau llafur. Hoffem gael rhywun sydd â gwybodaeth am y mudiad undebau llafur a hygrededd ynddo, ac sy’n gallu chwarae rhan lawn yn y tîm sy’n darparu partneriaeth gymdeithasol ac yn cefnogi newid diwylliant sefydliadol mewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal perthynas Llywodraeth Cymru ag undebau llafur yn y maes polisi hwn.  Bydd yn gweithio’n agos gyda chynrychiolwyr undebau llafur a rhanddeiliaid eraill i ddeall, i ddatblygu ac i ddylanwadu ar eu safbwynt ar faterion sy’n ymwneud â’r gweithlu a helpu i siapio polisi Llywodraeth Cymru ar bartneriaeth gymdeithasol. Bydd hefyd yn gyfrifol am ffrydiau gwaith polisi wedi’u diffinio o fewn y Gyfarwyddiaeth, er enghraifft darparu cymorth ysgrifenyddol a helpu i gyflawni’r rhaglen waith ar gyfer Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus a chysylltu ag undebau llafur ar y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.  Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithredu’n gredadwy ar lefel uwch reolwr yn Llywodraeth Cymru a chyfathrebu a chydweithio’n hyderus â phartneriaid undebau. Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am gyflawni darnau penodol o waith yn unol â rhaglen waith Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus.

Rydym yn chwilio am ymgeisydd sy’n gallu dangos;

Gwybodaeth am nodau’r mudiad undebau llafur a phrofiad o weithio yn y mudiad

  • Y gallu i ddatblygu rhwydwaith cryf o gysylltiadau cydweithredol gydag uwch arweinwyr yn Llywodraeth Cymru ac ar draws yr undebau llafur a chyflogwyr.

  • Sgiliau cyfathrebu a threfnu datblygedig iawn gyda’r gallu i rymuso, cymell a dylanwadu er mwyn ennyn ymddiriedaeth a hyder rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

  • Y gallu i ddatblygu perthynas waith agos a dibynadwy o fewn Llywodraeth Cymru, gyda Gweinidogion a phartneriaid cymdeithasol allanol a rhoi cyngor i Weinidogion ac uwch gynrychiolwyr y Partneriaid Cymdeithasol.

  • Gwybodaeth am faterion cymdeithasol a chyflogaeth a strwythurau partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru.

  • Dealltwriaeth o dirwedd undebau llafur y sector cyhoeddus.

Os chi yw ‘r unigolyn yma, cysylltwch â fstock@tuc.org.uk i gael pecyn recriwtio.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd 30 Mawrth 2026 a chynhelir y cyfweliad ar 14 Ebrill 2026 yn swyddfa TUC Cymru, 1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9SD.