Dyddiad cyhoeddi
Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn nodi'r egwyddorion a'r fframwaith ar gyfer ymgysylltu rhwng TUC Cymru a Phlaid Cymru yn y cyfnod sy’n arwain at etholiadau'r Senedd yn 2026.

Y bwriad yw:
•    Sefydlu sianel ffurfiol ar gyfer deialog a chydweithio.
•    Sicrhau bod undebau llafur yn cael eu cynnwys yn ystyrlon wrth ddatblygu polisïau.
•    Hyrwyddo gwerthoedd cyffredin ynghylch gwaith teg, cyfiawnder cymdeithasol a newid sy'n cael ei arwain gan undebau.
•    Meithrin a chynnal perthynas waith gadarnhaol ac adeiladol.
•    Paratoi ar gyfer y posibilrwydd y bydd Plaid Cymru yn ffurfio llywodraeth.
Nid yw'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn disodli nac yn tanseilio'r berthynas bresennol rhwng TUC Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru. Bydd TUC Cymru yn parhau i weithio gyda nhw’n adeiladol.
 

Egwyddorion Ymgysylltu

Datblygu polisïau cynhwysol

Bydd Plaid Cymru yn ymgysylltu â TUC Cymru a'i undebau cysylltiedig i lunio cynigion polisi sy'n effeithio ar weithwyr, cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus. Bydd rhain wedi’u selio ar y ddogfen Blaenoriaethau TUC Cymru Llywodraeth Nesaf Cymru.

Parch ac annibyniaeth i'r naill ochr a'r llall

Mae'r ddau sefydliad yn cydnabod rolau penodol ei gilydd ac yn cynnal eu hannibyniaeth wrth gydweithio.

Tryloywder a gonestrwydd

Bydd ymgysylltu'n digwydd mewn modd tryloyw, gyda chyfathrebu rheolaidd a chyd-ddealltwriaeth o flaenoriaethau.

Ymrwymiad ar y cyd i Waith Teg a Phartneriaeth Gymdeithasol

Mae'r ddau sefydliad yn ailddatgan eu hymrwymiad i hyrwyddo Gwaith Teg, hawliau gweithwyr a phartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru.

Mecanwaith ar gyfer Ymgysylltu

Cyfarfodydd strategol

Bydd uwch gynrychiolwyr o'r ddau sefydliad yn cwrdd yn rheolaidd i drafod meysydd polisi allweddol, blaenoriaethau deddfwriaethol, a chyfleoedd i gydweithio.

Materion polisi

Bydd trafodaethau thematig yn cael eu cynnull i archwilio materion penodol fel iechyd a gofal cymdeithasol, swyddi hinsawdd, addysg, diwylliant, y gwasanaeth sifil/cyrff a noddir a thrawsnewid digidol.

Fframwaith ar gyfer ymgysylltu ehangach

Bydd y ddau sefydliad yn annog ac yn hwyluso ymgysylltu cadarnhaol ehangach rhwng undebau ac uwch lefarwyr a swyddogion Plaid Cymru.

Adolygu ac adnewyddu

Mae'r ddau sefydliad wedi cydweithio'n adeiladol ers lawer o flynyddoedd, gyda'r berthynas yn tyfu ac yn datblygu wrth i lywodraeth ddatganoledig aeddfedu. Yn unol â'r arfer hwnnw, bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn cael ei adolygu ym mis Mai 2026, yn dilyn etholiadau'r Senedd. Gall y ddau sefydliad gytuno i adnewyddu, diwygio neu ddod â'r cytundeb presennol hwn i ben ar sail y cyd-destun sefydliadol a gwleidyddol ar y pryd.