Dyddiad cyhoeddi
• Mae data newydd o arolwg TUC Cymru yn dangos bod 79% o bobl eisiau cael gwared ar elw o wasanaethau gofal

• Mae arolwg TUC Cymru yn dangos bod 64% yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru

Heddiw (dydd Iau, 4 Rhagfyr), mae TUC Cymru yn lansio deiseb yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru. 

Mae'r corff undebau, sy'n cynrychioli bron i 400,000 o weithwyr yng Nghymru, yn ymgyrchu i wasanaethau gofal yng Nghymru gael eu darparu'n gyhoeddus, eu hariannu'n gyhoeddus, a bod yn atebol i'r cyhoedd. 

Mewn arolwg diweddar ledled y wlad, canfu TUC Cymru fod galw clir ymysg y cyhoedd i'r llywodraeth flaenoriaethu mynd i'r afael â phroblemau ym maes gofal cymdeithasol.  

O ran blaenoriaethau ar gyfer Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, dangosodd yr arolwg gefnogaeth gref i’r canlynol: 

•    Gwasanaeth gofal cyson ledled Cymru (80%) 
•    Darparu gofal sy'n rhad ac am ddim pan fydd ei angen (75%) 
•    Gwella cyflogau, amodau, a chyfleoedd gyrfa i weithwyr gofal (79%) 
•    Sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu fel gwasanaeth cyhoeddus, nid-er-elw (79%).  

Mae TUC Cymru yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ym Mhontypridd ddydd Llun (8 Rhagfyr) i drafod gwasanaethau lleol gyda'r gymuned. Mae'r digwyddiad yn agored i bawb, yn enwedig y rhai sydd â ffrindiau neu deulu sy'n defnyddio gwasanaethau gofal lleol, neu sy'n gweithio fel gofalwr.

Cofrestrwch i ddod i'r digwyddiad: www.megaphone.org.uk/events/profit-has-no-place-in-social-care

Dywedodd Amber Courtney, Swyddog Polisi TUC Cymru:

“Mae pobl hŷn yn haeddu urddas, nid cael eu trin fel nwyddau. Ond ar hyn o bryd, ledled Cymru, mae cwmnïau preifat yn gwneud elw o redeg cartrefi gofal, ac mae gormod o breswylwyr yn cael gofal o ansawdd gwael, ac mae staff medrus yn cael eu tanbrisio ac yn cael eu talu’n wael.  

“Mae'r mudiad undebau llafur wedi treulio blynyddoedd yn ymgyrchu dros ddatrys gwasanaethau gofal yng Nghymru.  
“Mae'r problemau yn y sector yn hysbys iawn. Rydyn ni angen gwasanaethau mwy cyson ledled Cymru. Rydyn ni angen gwell integreiddio rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gweithwyr gofal yn haeddu gwell cyflog, telerau, ac amodau. Rhaid darparu gwasanaethau gofal fel gwasanaeth cyhoeddus. Mae angen cael gwared ar elw o wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion. Rydyn ni angen gwasanaethau gofal sy'n cyrraedd y safonau y mae defnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru yn eu haeddu.

“Mae'n amlwg bod y cyhoedd yng Nghymru yn rhannu ein barn am sut y dylid rhedeg gwasanaethau gofal a'r problemau y mae angen rhoi sylw iddynt.  

“Yn wir, mae ein harolwg yn dangos bod pedwar o bob pump o bobl a holwyd yn credu y dylai Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol roi blaenoriaeth i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu fel gwasanaeth cyhoeddus, nid-er-elw, a sicrhau gwell cyflog ac amodau i weithwyr gofal. 

“Gyda chefnogaeth mor gryf gan y cyhoedd, mae angen i lywodraeth bresennol Cymru a'r llywodraeth nesaf weithredu a gwneud cynnydd.

“A'r gwir amdani yw na ellir cyflawni trawsnewidiad o'r fath heb fynd i'r afael â'r cyflogau, y telerau a'r amodau gwael y mae cynifer o'r gweithlu gofal yn eu derbyn ar hyn o bryd. Ni ddylai gwasanaethau hanfodol fyth gael eu rhedeg ar draul gweithwyr, ac mae'n hen bryd diwygio eu safonau gwaith. 

Rwy'n annog pawb sy'n gwerthfawrogi gofal cymdeithasol i lofnodi ein deiseb newydd.” 

Mae’r ddeiseb ar gael yn:  www.megaphone.org.uk/petitions/profit-has-no-place-in-social-care


 

Nodyn y golygyddion

DIWEDD
Nodiadau i olygyddion

Digwyddiad sydd ar y gweill: Gofal cymdeithasol a'ch cymuned, trafodaeth Neuadd y Dref – dydd Llun 8 Rhagfyr am 6.30pm, Clwb Cyn-filwyr Pontypridd, CF37 1DZ. Mae croeso i'r wasg ddod i'r digwyddiad. 

Llefarydd: Gallwn ddarparu llefarydd ar gais 

Deiseb: Mae’r ddeiseb ar gael yn: https://www.megaphone.org.uk/petitions/profit-has-no-place-in-social-care 

Gwybodaeth am yr arolwg: Cynhaliwyd yr arolwg gan y sefydliad arolygu Opinium. Roedd yr arolwg barn yn arolygu 1000 o oedolion (18 oed a hŷn), wedi'u pwysoli i fod yn genedlaethol ac yn wleidyddol yng Nghymru ar oedran, rhywedd, addysg, statws gweithio, rhanbarth, sylw gwleidyddol, pleidlais ac etholiad cyffredinol 2024. 

Canfyddiadau allweddol: Data wedi'i symleiddio. Mae dadansoddiad llawn ar gael ar gais.