Daeth undebwyr llafur, arweinwyr cymunedol a gwleidyddion at ei gilydd yn y Senedd yr wythnos hon ar gyfer digwyddiad Mis Hanes Pobl Ddu blynyddol TUC Cymru: Dathlu ein Gorffennol a Diogelu ein Dyfodol. Roedd y digwyddiad yn anrhydeddu cyflawniadau gweithwyr Du ac undebwyr llafur ledled Cymru, gan alw am weithredu o'r newydd i sicrhau cyfiawnder hiliol mewn gweithleoedd a chymunedau.
Dywedodd noddwr y digwyddiad, Vaughan Gething AS:
Rwy'n falch iawn o fod wedi noddi TUC Cymru yn nathliadau eleni o'r mudiad undebau llafur a Mis Hanes Pobl Ddu. Mae'r mudiad undebau llafur ar flaen y gad o ran mynd i'r afael â gwahaniaethu a hiliaeth yn y gweithle. Fel cynrychiolydd undeb llafur a thwrnai, rwy'n falch o fod yn rhan o'r gwaith hwn a'i gefnogi. Mae gennym lawer i'w ddathlu ond mae bob amser mwy o waith y gallwn ei wneud, gyda'n gilydd.
Tynnodd siaradwyr sylw at genhadaeth undebwyr llafur Du sydd wedi siapio gofal iechyd, diwydiannau a bywyd dinesig Cymru. Talodd y cynrychiolwyr deyrnged i genedlaethau o weithwyr Du y mae eu straeon a'u brwydrau'n parhau i ysbrydoli’r mudiad am gyfiawnder a chydraddoldeb heddiw.
Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar sut gall undebau llafur a'r llywodraeth weithio gyda'i gilydd i droi uchelgeisiau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn gynnydd pendant.
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
“Mae'r digwyddiad hwn yn dathlu cyfraniad anhygoel gweithwyr Du yng Nghymru - ond mae hefyd yn ein hatgoffa bod ein gwaith ymhell o fod ar ben. Mae gweithwyr du yn dal i wynebu rhwystrau o ran recriwtio, cyflog a datblygiad. Ni ellir cyflawni Cymru wrth-hiliol drwy eiriau'n unig. Mae'n gofyn am ymrwymiad, atebolrwydd a gwir bartneriaeth."
Yn ystod y digwyddiad, bu Jane Hutt AS ganmol rôl undebau llafur o ran hyrwyddo cydraddoldeb ac fe addawodd y byddai’r cydweithio yn parhau i ymgorffori gwrth-hiliaeth ar draws gwasanaethau cyhoeddus a gweithleoedd.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Jamie Morris, bydwraig ac aelod o Raglen Datblygu Ymgyrchwyr Du TUC Cymru 2025:
Newidiodd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol bopeth ac mae wedi chwarae rhan enfawr yn fy nhaith.
Cyn iddo fodoli, roedd cymaint o'r gwaith hwn yn digwydd yn dawel. Roedd pobl fel fi yn ceisio sbarduno newid o'r cyrion. Roedd ceisio mynd i'r afael â hiliaeth yn aml yn golygu sefyll ar eich pen eich hun, gan wthio yn erbyn systemau cadarn.
Roedd lansio’r cynllun yn ddigwyddiad pwysig. Rhoddodd strwythur, atebolrwydd a phŵer i’r frwydr yn erbyn hiliaeth. Pan wnes i siarad, roedd yn golygu nad oeddwn i'n siarad fel un person ag angerdd; roeddwn i'n cael fy nghefnogi gan ymrwymiad cenedlaethol.
Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ymwneud ag adeiladu'n well, nid dim ond edrych yn ôl.
Cadarnhaodd TUC Cymru ei ymrwymiad i greu dyfodol tecach i bawb. Cenedl noddfa yw Cymru, wedi'i llunio gan genedlaethau o fewnfudo. Mae ei gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu gan weithlu amrywiol, gan gynnwys ffoaduriaid sy'n gwasanaethu ar reng flaen y GIG a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae pryder cynyddol ynghylch bygythiad Reform a'i agenda yn erbyn fewnfudwyr. Mae hiliaeth yn dal i ddifetha gormod o fywydau ledled y wlad.
Mae undebau llafur yn parhau i fod yn gadarn yn eu hymrwymiad i frwydro dros driniaeth deg, urddas a pharch i bob gweithiwr. Drwy fynd i'r afael â hiliaeth a gwrthod strategaethau gwleidyddol sy’n ecsbloetio ymrannu cymdeithasol ac ‘aralleiddio', gall Cymru ddod yn genedl gryfach, decach a mwy diogel i bawb.
Ymholiadau gan y cyfryngau:
E-bost: press@tuc.org.uk
Ffôn: 029 2034 7010
Gwefan: www.tuc.org.uk/wales