Datganiad am modiwl plant a phobl ifanc yr ymchwiliad Covid
Gan siarad ar ran undebau ysgolion, dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
“Drwy gydol y pandemig, lles plant oedd y flaenoriaeth i staff addysg bob amser. Yn wir, rhoddasant ddiogelwch a lles plant o flaen eu lles a’u diogelwch nhw eu hunain a’u teuluoedd yn rheolaidd. Roedd aelodau’r proffesiwn addysg yn gwbl ymroddedig i addysg a lles plant. Bu iddynt weithio yn hynod o galed mewn amgylchiadau neilltuol o heriol. Aeth llawer o staff ysgolion ymhell y tu hwnt i’w dyletswyddau – er enghraifft drwy ddosbarthu pecynnau bwyd i blant yn eu cartrefi. O ddechrau’r pandemig, aeth staff ysgolion i hybiau ac i ysgolion i ofalu am blant gweithwyr allweddol eraill. Nid oeddent yn gallu ynysu’n ddiogel yn eu cartrefi, fel y gallai gweithwyr eraill.
“Drwy gydol y pandemig, prif ffocws y proffesiwn addysg a’r undebau addysg oedd amddiffyn plant a sicrhau addysg plant. Rhoddodd staff eu hiechyd eu hunain mewn perygl.
“Rydym yn croesawu datganiad Mark Drakeford ddoe yn yr ymchwiliaid Covid sy’n nodi fod yr undebau llafur addysg ‘yn ymroddedig i fuddiannau’r plant yr oeddent yn eu gwasanaethu’.
“Yr undebau llafur addysg yw’r proffesiwn addysg. Ymgysylltodd yr undebau llafur addysg yn gadarnhaol ac yn adeiladol gyda Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol drwy gydol y pandemig. Roeddem yn falch o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Neilltuodd yr undebau amser ac ynni i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac roedd ei sylw wedi ei hoelio’n llwyr ar ddatrysiadau a sicrhau llesiant ac addysg plant a phobl ifanc .”
NODIADAU
1.
O ran perthynas rhwng yr undebau llafur addysg a Llywodraeth Cymru, nodwyd y canlynol yn yr ymchwiliad Covid heddiw:
Sam Jacobs, cyfreithiwr yn cynrychioli’r TUC: “Mewn mannau yn y modiwl hwn rydym wedi gweld cyfeiriadau at awgrymiadau o wrthdaro rhwng buddiannau staff addysgol ar y naill law a buddiannau plant ar y llaw arall. Ag ystyried hyn fel mater o egwyddor eang, a fyddech chi’n cytuno nad mater o hawliau staff yn erbyn hawliau plant yw penderfyniadau yn ystod pandemig, ond yn hytrach mae’n ymwneud ag ymateb angenrheidiol ac ymateb gorau cymdeithas gyfan, a bod angen gweld yr heriau drwy’r lens honno.”
Mark Drakeford: “Buaswn yn cyntuno’n llwyr â hynny ac rwyf am fod yn glir na chredais i erioed fod ein cyfeillion yn yr undebau llafur – undebau llafur athrawon neu undebau’r rhai nad oeddent yn athrawon – erioed wedi dod drwy’r drws heb fod yn ymwybodol o anghenion y plant yr oeddent yn gweithio mor galed i’w gwasanaethu.”
2.
Mae TUC Cymru wedi cyhoeddi tystiolaeth fideo gan Angharad Simpson sy’n gymhorthydd dysgu ac Angela Butler, cyn-athrawes sy’n nodi eu profiad o weithio mewn ysgolion yn ystod y pandemig.
3.
Yr undebau ysgolion sydd wedi cymeradwyo’r datganiad hwn yw ASCL, NAHT, NASUWT, NEU, UCAC ac UNISON