Mae aflonyddu rhywiol yn anghywir, ac nid oes lle iddo yn y gwaith, nac yn unman mewn cymdeithas. Gall gynnwys:
Os yw rhywbeth yn teimlo'n anghywir, siarada gyda dy gynrychiolydd undeb llafur.
Ry'n ni'n byw mewn cymdeithas lle mae'r person sydd wedi profi'r peth ofnadwy yma yn poeni mwy am ei riportio nag y mae'r busnes sydd fod i'w hamddiffyn, na'r person sydd wedi cyflawni'r aflonyddu. Pa mor o chwith yw hynny?
Ar ôl blynyddoedd lawer o ymgyrchu gan y mudiad undebau llafur a chymdeithas sifil, daeth y Ddeddf Diogelu Gweithwyr i rym ar 26 Hydref 2024. Mae hyn yn golygu y bydd angen i gyflogwyr weithredu mewn modd rhagweithiol ac ataliol er mwyn amddiffyn eu gweithwyr rhag aflonyddu rhywiol yn y gweithle.
Mae’r ddyletswydd yma’n gam pwysig wrth fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol.
Mae mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ym mhob gweithle yn flaenoriaeth i TUC Cymru.
Dyna pam rydym wedi lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ac addysgu gweithwyr am aflonyddu yn y gweithle, hawliau gweithwyr a dulliau riportio.
Rydym eisiau i'r ymgyrch hon helpu i ddileu aflonyddu rhywiol yn y gweithle.
Bydd yr ymgyrch yn:
Lawrlwythwch ein llawlyfr ymgyrch Fe Wnawn Ni Dy Gefnogi Di i ddysgu mwy am gefndir yr ymgyrch
Mae cynrychiolwyr yn allweddol i wneud yr ymgyrch hon yn llwyddiant ac i godi ymwybyddiaeth ynghylch yr hyn y gallwch ei wneud os byddwch yn profi neu'n dyst i aflonyddu rhywiol.
Os ydych chi'n gynrychiolydd, ystyriwch gymryd rhan mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:
Archebwch eich posteri Fe Wnawn Ni Dy Gefnogi Di
Mae undebau llafur yn hanfodol i sicrhau bod yr ymgyrch hon yn cael ei gweld mor eang â phosibl. Os ydych chi'n gweithio i undeb llafur, cefnogwch yr ymgyrch mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:
Archebwch eich posteri Fe Wnawn Ni Dy Gefnogi Di
Mae cyflogwyr da eisiau i'w gweithwyr deimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu cefnogi. Gall cymryd rhan yn yr ymgyrch Fe Wnawn Ni Dy Gefnogi Di eich helpu chi fel cyflogwr i gyflawni'r dyletswyddau ataliol yn Neddf Diogelu Gweithwyr 2024.
Archebwch eich posteri Fe Wnawn Ni Dy Gefnogi Di
Mae Addysg TUC Cymru yn hyfforddi cynrychiolwyr undebau ar ystod eang o bynciau.
Rydym yn cynnig cwrs tri diwrnod i helpu cynrychiolwyr i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle a’i atal.
Bydd yn eich helpu i wneud y canlynol:
Bydd y cwrs yn rhedeg unwaith y tymor, fel arfer ar-lein. Cofrestrwch ar gyfer y cwrs mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol a'i atal heddiw.