Mae gan y wefan newydd sbon hon restr o raddau poblogaidd y Brifysgol Agored a chyrsiau Mynediad y gallwch eu hastudio o adref neu yn y gwaith, ar amser sy'n gyfleus i chi.
Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ar sut gall holl weithwyr Cymru cael cyllid ar gyfer cwrs trwy’r Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF).
Mae dysgutrwyrundeb.cymru wedi’i chreu gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru mewn partneriaeth â TUC Cymru. Mae yma i'ch helpu gwella'ch sgiliau a datgloi eich potensial.
Cymerwch olwg ar y cyfleoedd dysgu sy’n agored i chi