Mae bod yn gynrychiolydd undeb yn bwysig ac yn rhoi boddhad, ond nid yw’n hawdd bob amser. Mae undebau, llywodraethau a chyflogwyr yn gwybod bod hyfforddi cynrychiolwyr yn hollbwysig.

Dyna pam mae’r gyfraith wedi rhoi hawl i gynrychiolwyr undebau gael amser cyfleuster. Mae hyn yn cynnwys amser o'r gwaith gyda thâl er mwyn mynd i gyrsiau hyfforddi TUC neu undebau, boed hynny mewn ystafell ddosbarth neu ar-lein. Os ydych chi:

  • yn gynrychiolydd undeb
  • yn gynrychiolydd iechyd a diogelwch undebau 
  • yn gynrychiolydd dysgu undebau

Cynrychiolwyr undebau a chynrychiolwyr iechyd a diogelwch

Dylai cynrychiolwyr undebau a chynrychiolwyr iechyd a diogelwch ofyn i’w cyflogwr am amser o’r gwaith gyda thâl yn y lle cyntaf.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:

Cynrychiolwyr undebau

Cynrychiolwyr iechyd a diogelwch

Cynrychiolwyr dysgu undebau (ULRs)

Yn ogystal â chynrychiolwyr undebau a chynrychiolwyr iechyd a diogelwch, mae gan gynrychiolwyr dysgu undebau hawl i ryddhad gyda thâl;

  • i gwblhau eu hyfforddiant
  • i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i gyd-weithwyr ar ddysgu a sgiliau, a chamu ymlaen yn y gwaith
  • i hyrwyddo dysgu a sgiliau yn y gweithle
  • i weithio gyda chyflogwyr i ddatblygu a gwella polisïau ac arferion yn y gweithle o ran dysgu a sgiliau
  • i wella mynediad i hyfforddiant ac i godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â dysgu yn y gweithle
  • i weithio gyda darparwyr a rhanddeiliaid perthnasol eraill i ddatblygu rhaglenni dysgu yn y gweithle

Dyma ffynonellau'r hawliau cyfreithiol i amser cyfleuster:

Os ydych chi’n cael trafferth cael cymeradwyaeth i gael amser o’r gwaith i fynychu hyfforddiant, dylech ofyn am gymorth gan gynrychiolydd undeb profiadol neu gan swyddog amser llawn yn eich undeb.

Cynrychiolwyr arbenigol

Mae'r cynrychiolwyr hyn yn arbenigo mewn meysydd penodol. Mae’r rhain yn gallu cynnwys:

  • cynrychiolwyr cydraddoldeb
  • cynrychiolwyr gwyrdd/amgylcheddol
  • hyrwyddwyr anabledd
  • hyrwyddwyr iechyd meddwl
  • hyrwyddwyr pensiynau

Mae deddfwriaeth yn darparu ar gyfer cynrychiolwyr arbenigol o ran amser o’r gwaith ar gyfer gweithgareddau undebau, ond nid ar gyfer hyfforddiant undebau’n benodol. Ond mae argymhellion hyfforddi yng nghanllaw ACAS, Trade Union Representation in the Workplace.

Rhyddhau ar gyfer dysgu ar-lein

Mae ein dysgu ar-lein wedi cael ei roi ar waith fel mesur dros dro gan nad ydyn ni’n gallu cynnig cyrsiau yn yr ystafell ddosbarth oherwydd ymbellhau cymdeithasol Covid-19 a chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Bydd hyn yn cael ei adolygu’n gyson a chyn gynted a bod modd i ni ddychwelyd i amgylchedd yr ystafell ddosbarth yn ddiogel byddwn ni’n gwneud hynny.

Yn y cyfamser, bydd angen i gynrychiolwyr sydd eisiau gwneud ein cyrsiau ar-lein gael caniatâd rhyddhau fel y byddech chi pe bae chi’n mynd i fynychu cwrs mewn ystafell ddosbarth.

Mae’r cyrsiau’n cael eu cynnig ar lein er mwyn sicrhau mynediad hwylus ac er mwyn i chi allu dechrau neu barhau â’ch taith ddysgu. Mae'r cyrsiau ar-lein yn cael eu harwain gan diwtoriaid a byddan nhw’n eich helpu ar eich taith ddysgu.

Ni ddylai dysgu ar-lein fod yn ddewis ar wahân i ryddhad cyflogedig o’r gwaith. Mae’r gyfraith yn berthnasol, p’un ai ydy dysgu’n digwydd yn y gwaith neu o’r gwaith. Gallai fod yn fwy hwylus i gynrychiolwyr a chyflogwyr gwblhau eu haddysg yn y gwaith, ond bydd angen i amser gael ei neilltuo er mwyn i gynrychiolwyr allu gwneud hynny.

Gallwch chi ddefnyddio’r eNodyn Amser Cyfleuster i’ch helpu chi i ddeall beth mae canllawiau ACAS yn ei gynnig.