Fel person ifanc gwyddom fod rhai ohonoch yn cael amser caled yn y gwaith ar y funud, ond gyda’n gilydd gallwn wneud rhywbeth am y peth.

Fel gweithiwr iau, efallai y byddwch yn chwilio am gontract mwy sefydlog, tâl uwch yr awr neu am gael eich trin gyda pharch yn y gwaith.

Hyn yw gwaith yr undebau, rydyn ni’n gwneud i’r pethau hyn ddigwydd drwy ddod at ein gilydd– mewn undod mae nerth.

Gall fod yn anodd iawn newid pethau ar ben dy hun, ond mae gennym hanes hir a balch o ennill pethau yn y gweithle.

Nid oes raid i bethau aros yr un fath. Gyda’n gilydd gallwn newid pethau er gwell.