Er gwaethaf y ffigurau cyflogaeth cryf, mae llawer o bobl ar eu colled
Wrth ymateb i’r ffigurau diweithdra diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Mercher), dywedodd Swyddog Polisi Economaidd TUC Cymru, Alex Bevan:
“Mae’r rhain yn sicr yn ffigurau cadarnhaol, ond ni ddylem anghofio bod llawer o waith i’w wneud eto er mwyn adfer y safonau byw cyn yr argyfwng ariannol, drwy gyflogau a swyddi gwell.
“Y prawf gwirioneddol i lywodraeth y DU yw a fydd pawb yn rhannu yn yr adferiad, nid dim ond y breintiedig rai.
“Ac ni ddylem anghofio heddiw, wrth i fwy o bobl ddod o hyd i waith, bod bron i 20,000 o bobl ar hyd a lled Cymru yn treulio eu hail Nadolig yn olynol yn ddi-waith ac angen gwaith yn ddybryd.
“Mae yna gannoedd o ardaloedd â phroblemau cyflogaeth ar hyd a lled Prydain, gyda mwy na 1,700 o bobl sydd wedi bod yn hawlio budd-daliadau diweithdra yn yr hirdymor yn Rhondda Cynon Taf yn unig. Ni all gweinidogion y DU anwybyddu’r cymunedau sydd â rhagolygon cyflogaeth anobeithiol dim ond oherwydd bod rhannau eraill o’r wlad yn edrych yn fwy llewyrchus.”
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf ar y farchnad lafur, roedd gan 136 o ardaloedd awdurdod lleol fwy na 1,000 o bobl a oedd wedi bod yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith am fwy na 12 mis ym mis Tachwedd 2013.
NODIADAU I OLYGYDDION:
- - Mae’r ffigurau diweddaraf ar y farchnad lafur ar gael www.ons.gov.uk/ons/dcp171778_338181.pdf
Nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau – oedran a chyfrannau |
||||||||||||||||||
ONS Cedwir Hawlfraint y Goron [gan Nomis ar 18 Rhagfyr 2013] |
||||||||||||||||||
dyddiad |
November 2013 |
|||||||||||||||||
oedran |
16-64 oed |
|||||||||||||||||
hyd |
Dros 1 flwyddyn |
|||||||||||||||||
local authority: county / unitary |
Cyfanswm |
|||||||||||||||||
Caerdydd |
2,755 |
|||||||||||||||||
Rhondda, Cynon, Taf |
1,785 |
|||||||||||||||||
Caerffili |
1,755 |
|||||||||||||||||
Casnewydd |
1,555 |
|||||||||||||||||
Blaenau Gwent |
1,140 |
|||||||||||||||||
Abertawe |
1,040 |
|||||||||||||||||
Wrecsam |
875 |
|||||||||||||||||
Sir Gaerfyrddin |
860 |
|||||||||||||||||
Torfaen |
770 |
|||||||||||||||||
Merthyr Tudful |
695 |
|||||||||||||||||
Sir y Fflint |
685 |
|||||||||||||||||
Conwy |
680 |
|||||||||||||||||
Castell-nedd Port Talbot |
670 |
|||||||||||||||||
Pen-y-bont ar Ogwr |
660 |
|||||||||||||||||
Gwynedd |
645 |
|||||||||||||||||
Ynys Môn |
640 |
|||||||||||||||||
Sir Ddinbych |
590 |
|||||||||||||||||
Bro Morgannwg |
570 |
|||||||||||||||||
Sir Benfro |
490 |
|||||||||||||||||
Powys |
360 |
|||||||||||||||||
Sir Fynwy |
285 |
|||||||||||||||||
Ceredigion |
220 |
|||||||||||||||||
Cyfanswm 19,725 Nid yw ffigurau’r hawlwyr yn cynnwys pobl sy’n hawlio’r Credyd Cynhwysol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn http://www.nomisweb.co.uk/articles/742.aspx. |
||||||||||||||||||
Mae'r cyfraddau ar gyfer awdurdodau lleol o 2012 ymlaen yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio trigolion canol 2012 ar gyfer y grŵp oedran priodol. |
||||||||||||||||||