Issue date

Mae undebau llafur TUC Cymru o fewn y gwasanaeth iechyd yn cynrychioli miloedd o weithwyr ymroddedig mewn amrywiaeth eang o swyddi, o nyrsys a gweithwyr parafeddygol i borthorion a ffisiotherapyddion. Yn gyfan gwbl, mae’r undebau sy’n aelodau o TUC Cymru’n cynrychioli rhyw 400,000 o weithwyr ar draws y sector preifat, gwasanaethau cyhoeddus a chyrff gwirfoddol yng Nghymru. Nid yw mwyafrif helaeth yr aelodau’n gweithio o fewn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ond maent yn dibynnau ar y gwasanaeth ar gyfer eu teuluoedd a’u cymunedau.

Mae GIG Cymru’n wynebu pwysau cynyddol a mwy o alw o hyd am ei wasanaethau yn sgil cymysgedd cymhleth o gyfyngiadau ariannol, demograffeg newidiol a sawl her hirdymor i iechyd cyhoeddus. Wrth i galedi ar lefel y Deyrnas Unedig barhau i achosi cwtogi na welwyd ei fath o’r blaen yn y gyllideb gyffredinol i Gymru, mae ein gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn wynebu pwysau anghyfiawn ar eu systemau ariannu erbyn hyn.

Er nad achoswyd y chwalfa ariannol gan yr un o’n gwasanaethau cyhoeddus, gorfodir pob un ohonynt i dalu’r pris amdani, tra cwtogir trethi i’r dyrnaid cyfoethocaf. Rydym yn benderfynol o gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y gall ein gwasanaethau cyhoeddus gyflawni’r canlyniadau gorau posibl gyda gweithlu sy’n cael gwerthfawrogiad, parch a sylw.

Mae’n hanfodol i gleifion a’u teuluoedd gael ffydd yn y gwasanaethau gofal iechyd a ddefnyddiant ac nad yw’r gweithlu sy’n eu darparu yn cael ei gamfynegi.

Mae’r GIG yn sefyll am atebolrwydd democrataidd gonest ac agored, ac felly y dylai fod yn wastadol. Dyna oedd gweledigaeth Aneurin Bevan ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym 1948 ac mae undebau’n parhau i ymgyrchu dros beirianweithiau cadarnach i sicrhau, lle cyfyd problemau, y cânt eu hadnabod a’u cywiro’n gynnar gyda chamau priodol i unioni a gwneud iawn. Bu’n wir erioed fod llais y gweithlu’n ganolog i sicrhau gwasanaeth cwbl atebol a thryloyw.

Mae’r heriau a’r cyfleon a wyneba’r gwasanaeth yn sgil newidiadau mewn cymdeithas, gwyddoniaeth a thechnoleg yn symbylu pob un ohonom yn gyson i ymdrechu dros well gwasanaethau a gwell cynllun yn y GIG. Dylid croesawu beirniadaeth adeiladol a gwybodus i helpu’r gwasanaeth i wella. Bydd hyn yn hanfodol er mwyn gwneud yn siŵr fod ad-drefnu’n sicrhau’r canlyniadau gorau i gleifion.

Lle bynnag y bydd gwasanaethau’n methu, a chwynion yn cael eu cyfiawnhau, mae’n hollbwysig gweithredu ar hynny mewn modd rhesymol a chymesur. Mae er lles i gleifion a’r gweithlu bod hyn yn digwydd. Ond ni ddylid caniatáu i fuddiannau pleidiol wleidyddol neu bersonol greu ffug gyffro a thanseilio proses sy’n dibynnu ar dystiolaeth i ysgogi gwelliant.

Mae’r rhain yn brofion pwysig i wasanaeth yr ydym i gyd yn dibynnu arno. Fodd bynnag, testun pryder dwys yw fod ymosodiadau gwleidyddol a rhethreg anghyfrifol yn niweidio’r berthynas o ymddiriedaeth sy’n bodoli rhwng cleifion a GIG Cymru. Mae’r ymosodiadau hyn eisoes wedi niweidio morâl y gweithlu ac mae’n hanfodol bellach y clywir llais y rhai sy’n cyflenwi ein gwasanaethau.

Mae gwasanaethau iechyd ledled Prydain yn wynebu heriau tebyg tra’n ymaddasu i natur newidiol y galw. Daw’r dasg hon yn sgil y gwaith llwyddiannus a arweiniodd at welliant yng ngwasanaethau’r pedair gwlad ym Mhrydain dros yr ugain mlynedd diwethaf. Canfyddiad astudiaeth ddeng mlynedd Ymddiriedolaeth Nuffield ar y gwasanaethau hynny oedd hyn: “no one country is emerging as a consistent front-runner on health system performance” a “there have been significant improvements in the performance of the health services across all four countries.” Dylai staff GIG Cymru ymfalchïo yn hyn ac maent yn haeddu gwell na’r disgrifiad gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig o Glawdd Offa fel llinell ‘rhwng byw a marw’. Mae’n gwbl annerbyniol i unrhyw lywodraeth neu sefydliad ymosod yn bleidiol wleidyddol mewn modd mor ddi-sail ac anghyfrifol ar y GIG yng Nghymru.

Nid yw’r rhethreg a ddefnyddiwyd yn cyfleu profiad ein haelodau na chyfraddau boddhad y cyhoedd, ond mae eisoes wedi niweidio morâl o fewn GIG Cymru.

Cyflenwir gwasanaethau ar draws GIG Cymru gan weithlu ymroddgar a thalentog sy’n gweithio gyda chleifion i gyflenwi gofal rhagorol, a hynny’n aml mewn amgylchiadau eithriadol o anodd dan bwysau aruthrol. Wrth gyflawni’r her hon bydd gweithwyr GIG Cymru’n rheolaidd yn mynd y tu hwnt i alwad dyletswydd ac ar brydiau gallant hyd yn oed wynebu cam-drin geiriol a chorfforol yn y broses. Mae’r GIG felly’n wahanol i’r rhan fwyaf o weithleoedd ac mae rôl morâl y staff yn hollbwysig i gyflenwad gwasanaeth effeithiol.

Tra parheir i ymosod ar y gwasanaeth yn ei gyfanrwydd a hynny heb sylfaen dystiolaeth foddhaol, parheir i danseilio morâl. Mae’n bwysicach nag erioed, felly, y cyflëir darlun cywir o waith y bobl sy’n gwasanaethu cleifion a’u teuluoedd.

Mae pa bynnag fuddiannau gwleidyddol sy’n manteisio ar ymosodiadau o’r fath yn gwbl bitw o gymharu â’r dasg o gynnal a gwella GIG Cymru a dylid cydnabod hynny. Fel mudiad ni wnawn oddef ymgyrchoedd difenwi dichellgar sy’n ceisio creu hollt rhwng cleifion a’r gweithlu. Yn ei hanfod, mae’r gofal a’r driniaeth a roddir yn rhy bwysig i gael eu llusgo drwy gwterydd sgorio pwyntiau gwleidyddol a chrafu pleidleisiau.

A ninnau’n dathlu 66 mlynedd ers sefydlu’r GIG, ein nod nawr yw cydweithio gyda phartneriaid ar draws y gwasanaeth er mwyn rhoi cyfrif gwirioneddol o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn seiliedig ar yr egwyddorion a arweiniodd at sylfaenu’r gwasanaeth ym 1948.

Nid pêl-droed politicaidd yw GIG Cymru. Ein gwasanaeth cyhoeddus ni ydyw.