Math o adroddiad
Research and reports
Dyddiad cyhoeddi
16 May 2018
Canfyddiadau allweddol

O ganlyniad i’r canfyddiadau, mae TUC Cymru yn cyflwyno’r argymhellion isod er mwyn gwella’r sefyllfa:

Argymhellion i gyflogwyr

  • Polisïau clir sy’n cefnogi cydraddoldeb i bobl anabl ac sy’n cael eu rhoi ar waith yn briodol
  • Casglu data am anabledd yn y gweithle er mwyn monitro cydraddoldeb i bobl anabl
  • Ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth
  • Hyfforddiant gorfodol ar gydraddoldeb i bobl anabl i’r holl reolwyr a staff
  • Camau i gael gwared ar achosion o wahaniaethu yn erbyn gweithwyr anabl ac aflonyddu arnynt
  • Gwella’r cymorth sydd ar gael i bobl anabl yn y gweithle, gan gynnwys grwpiau cefnogaeth gan gymheiriaid a chynlluniau mentora
  • Cynnig absenoldeb anabledd â thâl, absenoldeb i ofalwyr ac arferion gwaith hyblyg (fel addasu oriau a gweithio gartref)
  • Swyddi teg - contractau parhaol, diogel ac oriau a chyflogau teg

Cynllun gweithredu ar gyfer TUC Cymru a’r undebau

  • Datblygu pecyn cymorth ac eNodyn ar gyfer cynrychiolwyr undebau
  • Hyfforddiant ar gyfer cynrychiolwyr a swyddogion undebau
  • Ymgyrchoedd yn y gweithle
  • Negodi polisïau yn y gweithle a phwyso am eu rhoi ar waith yn effeithiol
  • Pwyso ar gyflogwyr i fonitro cydraddoldeb i bobl anabl yn briodol
  • Pwysigrwydd cynnwys pobl anabl mewn unrhyw benderfyniadau - annog gweithwyr anabl i ymwneud mwy â’r undebau

Mae’r canfyddiadau hefyd wedi nodi nifer o gamau gweithredu y dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU eu cymryd er mwyn gwella’r sefyllfa i bobl anabl yng Nghymru. Mae’r rhain wedi cael eu rhestru ar wahân ar ffurf gofynion yr ymgyrch.

Lawrlwytho’r adroddiad ar Anabledd a namau ‘cudd’ yn y gweithle (Saesneg) | (Cymraeg)

Crynodeb Gweithredol

Cynhaliodd TUC Cymru yr ymchwil yma er mwyn deall yn well yr agweddau tuag at anabledd a’r profiadau o anabledd yn y gweithle yng Nghymru, gan gynnwys y gweithwyr hynny sydd â namau ‘cudd’ neu anweladwy. Casglodd yr ymchwil dystiolaeth ystadegol yn ogystal â straeon gan weithwyr anabl i roi llais i’r profiadau hynny.

Fe wnaethom ddefnyddio arolwg ar-lein er mwyn cyrraedd cymaint â phosibl o bobl sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru (gan gynnwys pobl sy’n ystyried eu hunain yn anabl, pobl nad ydynt yn ystyried eu hunain anabl, aelodau o undebau a rhai nad oeddent yn aelodau o undeb). Roeddem yn dymuno casglu hanesion unigolion er mwyn deall profiadau go iawn gweithwyr anabl a chael cipolwg ar beth yw dirnadaeth ac agweddau gweithwyr nad ydynt yn anabl tuag at anabledd yn y gweithle.

Cynhaliwyd yr ymchwil yng nghyd-destun y dystiolaeth gyfredol sy’n dangos bod y cynnydd tuag at gydraddoldeb i bobl anabl yn y DU wedi dod i stop a bod pobl anabl yn wynebu rhagor o rwystrau.

  • Nid yw’r bwlch swyddi ar gyfer pobl anabl yn gwella ac mae’r bwlch cyflog yng nghyswllt pobl anabl yn ehangu, felly mae cydraddoldeb i bobl anabl yn colli tir eto yn y gweithle.
  • Mae llai na hanner oedolion anabl mewn cyflogaeth, ac mae stigma ac anwybodaeth yn golygu bod y rheini sydd â namau fel problemau iechyd meddwl, anableddau dysgu a chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth hyd yn oed yn fwy tebygol o fod allan o waith.
  • Mae diwygiadau budd-daliadau a chaledi llywodraeth y DU wedi cael effaith negyddol sylweddol ar bobl anabl. Mae newidiadau wedi cael eu rhoi ar waith mewn ffordd sy’n aml wedi methu â chynnal hawliau pobl anabl ac wedi cynyddu’r risg o dlodi, anfantais ac allgáu.
  • Mae cyfuniad o ddiffyg ymwybyddiaeth, stereoteipiau ar y cyfryngau a rhagfarn eang a rhagfarn ddiarwybod, nad ydynt yn cael eu herio yn aml iawn, yn cael effaith negyddol ar fywydau pobl anabl.
  • Mae cyfran uwch o bobl sy’n byw ag anabledd neu gyflwr iechyd tymor hir yn byw yng Nghymru nag yn y DU gyfan. Felly, mae’r anfanteision y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn cael effaith neilltuol ar y wlad hon.

Ymatebodd dros 1,000 o bobl i’n harolwg a rhannodd nifer eu profiadau personol eu hunain, gan roi cipolwg i ni ar sut mae pobl anabl yn cael eu trin mewn amrywiaeth o weithleoedd yng Nghymru, gan gynnwys yn y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Dyma brif ganfyddiadau’r ymchwil:

  • Dywedodd mwy na chwarter (28 y cant) o’r ymatebwyr anabl eu bod yn teimlo bod eu cyflogwr yn gweld anabledd fel 'problem’ yn y gweithle a dywedodd 1 o bob 3 (33 y cant) eu bod yn teimlo bod eu cydweithwyr yn gweld anabledd fel 'problem' yn y gweithle.
  • Dywedodd mwy na hanner (57 y cant) o’r ymatebwyr anabl nad ydynt yn teimlo bod pobl yn cael eu trin yn gyfartal yn eu gweithle, o gymharu â 38 y cant o’r ymatebwyr heb anabledd.
  • Dywedodd mwy na thri chwarter yr holl ymatebwyr bod gan eu gweithle bolisïau yn eu lle i helpu gweithwyr anabl ond dywedodd nifer arwyddocaol ohonynt nad oedd y rhain yn gweithio’n ymarferol oherwydd eu bod yn cael eu gweithredu’n wael, yn anghyson neu ddim yn cael eu gweithredu o gwbl.
  • Dywedodd tua 1 o bob 4 o’r holl ymatebwyr nad oedd gan eu gweithleoedd unrhyw bolisïau i helpu gweithwyr anabl, neu nad oeddent yn ymwybodol o unrhyw bolisïau o'r fath.
  • Dywedodd tua 1 o bob 3 (32 y cant) o’r ymatebwyr anabl bod anabledd wedi cael ei drin fel testun ‘sbort’ yn eu gweithle, a dywedodd llawer eu bod wedi profi aflonyddu.
  • Roedd bron i chwarter (24 y cant) o’r ymatebwyr anabl yn teimlo bod anabledd wedi cael ei drin yn negyddol yn y gweithle a dywedodd 1 o bob 4 (25 y cant) nad oeddent yn teimlo’n gyfforddus yn siarad am anabledd yn y gwaith o gwbl.
  • Dywedodd tua 1 o bob 3 (33 y cant) o’r gweithwyr anabl bod anabledd wedi bod yn bwnc ‘lletchwith’ yn eu gweithle.
  • Dywedodd tua thri chwarter (74 y cant) o'r holl ymatebwyr fod eu gweithle wedi rhoi ‘addasiadau rhesymol’ ar waith i helpu gweithwyr anabl. Fodd bynnag, roedd nifer o’r ymatebwyr anabl yn dweud bod problemau, oedi ac anghysonderau o ran rhoi addasiadau rhesymol ar waith.
  • Dywedodd dwy ran o dair (67 y cant) o’r ymatebwyr anabl eu bod yn teimlo bod mwy o stigma’n gysylltiedig ag anableddau nad yw eraill yn gallu eu gweld.

Gofynnwyd i ymatebwyr am eu hawgrymiadau ynghylch adnoddau a chymorth a allai helpu i wella cydraddoldeb i bobl anabl yn y gweithle. Roedd ymatebwyr a chanfyddiadau’r arolwg hwn yn cefnogi’r angen i undebau llafur gymryd rhagor o gamau gweithredu:

  • Dywedodd bron i 9 o bob 10 o’r ymatebwyr anabl y byddent yn croesawu arweiniad ar ffurf polisi enghreifftiol ar gyfer y gweithle ar anableddau anweledig/cudd. Dywedodd nifer tebyg y byddent yn croesawu hyfforddiant i gynrychiolwyr undebau ar y pwnc hwn hefyd.
  • Darparodd ymatebwyr nifer o awgrymiadau ychwanegol o ran y camau gweithredu a’r adnoddau a fyddai o fudd i godi ymwybyddiaeth o anableddau anweledig ac i wella cydraddoldeb i bobl anabl yn y gweithle. Roedd y rhain yn cynnwys hyfforddiant ar gydraddoldeb i bobl anabl sy’n seiliedig ar fodel cymdeithasol o anabledd, ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth yn y gweithle, rhoi polisïau ar waith yn well a monitro cydraddoldeb i bobl anabl yn well yn y gweithle.
  • Mae canfyddiadau’r ymchwil wedi nodi bod angen rhagor o gamau gweithredu a newidiadau i wella’r sefyllfa ar gyfer gweithwyr sydd â namau anweledig yng Nghymru.

Lawrlwytho’r adroddiad ar Anabledd a namau ‘cudd’ yn y gweithle (Saesneg) | (Cymraeg)