Issue date

Gan ymateb i’r ystadegau diweddaraf am y farchnad lafur a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Mercher) gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, dywedodd Swyddog Polisi Economaidd TUC Cymru, Alex Bevan:

“Mae’n galonogol gweld gostyngiad mawr arall yn nifer y bobl sy’n ddi-waith ac mae’n bwysig bod Cymru’n parhau i gau’r bwlch ar lefelau diweithdra cyffredinol y DU.

“Ond er bod y prif gyfraddau diweithdra o fewn trwch blewyn i drothwy canllawiau’r Banc, byddai cynnydd cynnar i’r gyfradd llog yn drychinebus i bobl â morgeisi a busnesau – a fyddai’n peryglu ein hadfywiad economaidd.

“Nid yw’r gyfradd diweithdra yn rhoi darlun cyflawn o’r sefyllfa. Mae 68,000 o weithwyr yng Nghymru sy’n gweithio’n rhan amser sydd angen gwaith llawn amser, ac mae 20,000 o bobl newydd dreulio eu hail Nadolig yn ddi-waith ac angen gwaith yn ddybryd.

“Mae lefelau afreolaidd o gynnydd mewn swyddi yn rhannau o’r wlad yn golygu bod y rhai sy’n ddi-waith neu sy’n wynebu colli eu swyddi yn gwybod yn well na neb pa mor anodd yw chwilio am waith sydd ag oriau a chyflog digonol.”

DIWEDD