Issue date
Mae TUC Cymru’n nodi Wythnos Awtistiaeth y Byd drwy gyhoeddi pecyn cymorth newydd Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth yn y Gweithle.

Mae’r pecyn yn darparu arweiniad ymarferol cynhwysfawr ar gyfer undebwyr llafur a chyflogwyr ynghylch sut mae modd creu gweithleoedd sy’n ystyriol o awtistiaeth. Mae hefyd yn chwalu rhai o’r mythau ynghylch gweithwyr awtistig ac yn tynnu sylw at y manteision sylweddol y gallant eu dwyn i’r gweithle.

  • Amcangyfrifir fod gan 31,000 o bobl yng Nghymru Gyflwr ar y Sbectrwm Awtistig – oddeutu 1 ym mhob 100 o bobl.
  • Dim ond 16% o bobl awtistig sydd mewn gwaith amser llawn ac mae’r gyfradd gyflogaeth gyffredinol (32%) 2.5 gwaith yn is nac ar gyfer y boblogaeth nad yw’n anabl. Dywed 77% o’r rhai sy’n ddi-waith eu bod eisiau gweithio.
  • Dim ond 10% o weithwyr awtistig sy’n dweud eu bod yn cael cymorth cyflogaeth ond dywed 53% eu bod eisiau hynny.  

Dywedodd Rhianydd Williams, Swyddog Polisi TUC Cymru: “Mae gormod o weithwyr awtistig yng Nghymru’n wynebu gwahaniaethu yn eu herbyn yn ddyddiol ac mae cyfleoedd yn y gwaith yn cael eu gwrthod iddynt oherwydd anwybodaeth eang ynghylch eu cyflwr.   

“Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar gyflogwyr i drin pobl ag awtistiaeth yn deg a gwneud addasiadau rhesymol i’r gweithle lle bo angen.

“Rydym yn clywed am lawer gormod o achosion lle y mae gweithwyr awtistig yn gorfod gweithio dan amodau anaddas ac yn cael eu rhoi dan straen yn gwbl ddiangen. Mewn llawer achos, mae camau syml y gallai cyflogwr eu cymryd i wella’r sefyllfa.

“Mae ein pecyn cymorth newydd yn rhoi i bobl yr wybodaeth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt i fynnu newid yn y gwaith.”

Mae enghreifftiau o newidiadau i weithleoedd er mwyn eu gwneud yn ystyriol o awtistiaeth yn cynnwys: 

  • Darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o awtistiaeth i’r holl staff – yn enwedig rheolwyr ac Adnoddau Dynol. 
  • Sefydlu polisi awtistiaeth clir ar gyfer y gweithle a rhoi cyfle i weithwyr awtistig a’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu am bobl ag awtistiaeth, i gyfrannu at ei ddatblygu.
  • Adolygu’r amgylchedd gwaith. A yw’r amgylchedd synhwyraidd yn addas ar gyfer pobl a allai fod yn sensitif i oleuni a sŵn? 
  • Adolygu cyfathrebiadau yn y gweithle. A ydy gwybodaeth yn cael ei rhannu mewn ffordd sy’n addas ar gyfer gweithwyr awtistig?   
Editors note
  • Cynhyrchwyd Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth yn y Gweithle gan TUC Cymru gyda chymorth gan Autism Spectrum Connections Cymru.
  • Mae ar gael i’w lwytho i lawr yn Gymraeg neu yn Saesneg o www.tuc.org.uk/wales
  • Wales TUC Cymru
    wtuc@tuc.org.uk 
    029 2034 7010