Issue date

Mae cyflogau isel yn costio mwy na £3.2 biliwn i Drysorlys y DU wrth i fudd-daliadau a chredydau treth, sy’n dibynnu ar brawf modd, barhau i gymorthdalu'r cyflogwyr hynny nad ydynt yn talu cyflog teg i’w gweithwyr.

Mae gwaith ymchwil y TUC wedi datgelu heddiw (Dydd Gwener) gwir faint yr arbedion posibl i Lywodraeth y DU pe byddai gweithwyr yn derbyn y cyflog byw.

Pe byddai pob gweithiwr yng Nghymru yn derbyn y cyflog byw o leiaf, byddai Llywodraeth y DU yn arbed £154 miliwn drwy leihau ei gwariant ar fudd-daliadau a lefelau treth uwch. Fel rhan o'r wythnos cyflog byw, mae TUC Cymru yn pwysleisio heddiw bod angen economi sy’n fwy cytbwys, sy’n sicrhau bod twf cyflog a swyddi safonol yn elfennau canolog o’r adferiad.

Wrth i’r cyfnod parhaol o galedi arwain at argyfwng costau byw, mae undebau llafur yn atgyfnerthu eu hapêl i sectorau megis manwerthu a lletygarwch wrthdroi’r tuedd i dalu cyflogau isel sydd wedi gwanhau economi ac incwm teuluoedd yng Nghymru. Mae TUC Cymru hefyd yn annog y cyflogwyr hynny sy’n gallu fforddio talu’r cyflog byw i weithredu yn awr er mwyn mynd i’r afael â’r cynnydd brawychus mewn tlodi mewn gwaith ar draws Cymru. Mae adroddiad diweddar gan Sefydliad Joseph Rowntree yn datgan mai cyflogau uwch a mwy o oriau gwaith yw’r ffordd orau o fynd i’r afael â thlodi mewn gwaith, sy’n effeithio ar tua 285,000 o weithwyr yng Nghymru.

Dywedodd Llywydd TUC Cymru, David Evans:

“Mae cyflogau isel yn effeithio ar bob un ohonom. Mae rhai cwmnïau mawr yn talu cyflogau annigonol i’w staff, wrth i fudd-daliadau a chredydau treth, sy’n dibynnu ar brawf modd, ychwanegu at incwm, sy’n golygu bod miloedd o deuluoedd sy’n gweithio yn parhau i fyw islaw’r ffin tlodi. Mae cyflogwyr da yn parhau i gael eu tanseilio gan y rhai gwael ac mae angen codiad cyflog ar weithwyr ar draws Cymru fwy nac erioed o’r blaen.

“Nid yw’r cyflog byw yn ateb syml, ac mae gweithwyr yn haeddu derbyn cyflog llawer uwch mewn nifer o achosion, os yw’r cyflogwyr yn dymuno rhoi cydnabyddiaeth wirioneddol i’w gweithlu. Mae’r math hwn o gyflogaeth hefyd yn cael ei nodweddu gan fathau eraill o gam-drin hawliau yn y gwaith a’r cynnydd annioddefol mewn contractau dim oriau. Mae’r broblem hon yn elfen hollbwysig er mwyn gwrthdroi economi Cymru.

“Mae angen i ni annog swyddi sy’n buddsoddi mewn pobl, yn cynnwys mynediad at hyfforddiant a datblygiad. Bydd gweithleoedd sydd ag undeb llafur cydnabyddedig yn aml yn talu cyflogau gwell, yn cynnig cyfleoedd i ddysgu a datblygu, yn ogystal â diogelwch gwirioneddol rhag aflonyddwch a bwlio.

“Dylai cynyddu cyflogau fod yn rhan o becyn cyflogaeth gwell sy’n rhoi’r parch a’r diogelwch mae pobl sy’n gweithio yn ei haeddu.”

Diwedd