Gan ymateb i’r ffigurau cyflogaeth diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Mercher) gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Martin Mansfield:
“Fel y DU yn gyffredinol, mae gweithlu Cymru yn tyfu, ond yn mynd yn dlotach.
“Mae’n galonogol gweld bod mwy o swyddi’n cael eu creu, ond mae ansawdd y swyddi hyn yn dirywio ac yn agos i’r lefel isaf mewn 20 mlynedd. Mae’r nifer uchaf erioed o bobl yn gaeth mewn swyddi rhan amser am na allant ddod o hyd i swyddi llawn amser, ac mae cyflogau gwirioneddol yn parhau i grebachu er gwaethaf y gostyngiad mewn chwyddiant.
“Mae angen swyddi gwell a chodiadau cyflog gwell arnom er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng mewn safonau byw, a sicrhau bod manteision llawn yr adferiad yn cyrraedd pobl sy’n gweithio yng Nghymru.”
Yn ôl mynegai ansawdd swyddi’r TUC, a lansiwyd y bore yma, mae ansawdd swyddi wedi dirywio unwaith eto, ac mae’n agos i’r lefel isaf yn yr 20 mlynedd ddiwethaf.
NODIADAU I OLYGYDDION:
- Mae mynegai ansawdd swyddi’r TUC ar gael yma www.tuc.org.uk/economic-issues/labour-market/job-quality-close-20-year-low-despite-rising-employment-rates a bydd yn cael ei ddiweddaru yn www.touchstoneblog.org.uk
- Gallwch lawrlwytho cynllun ymgyrch y TUC o www.tuc.org.uk/campaignplan
- Mae holl ddatganiadau i’r wasg y TUC ar gael yn www.tuc.org.uk
- Dilynwch y TUC ar Twitter: @tucnews