Issue date

Er gwaethaf y ffigurau cyflogaeth cryf, mae llawer o bobl ar eu colled

Wrth ymateb i’r ffigurau diweithdra diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Mercher), dywedodd Swyddog Polisi Economaidd TUC Cymru, Alex Bevan:

“Mae’r rhain yn sicr yn ffigurau cadarnhaol, ond ni ddylem anghofio bod llawer o waith i’w wneud eto er mwyn adfer y safonau byw cyn yr argyfwng ariannol, drwy gyflogau a swyddi gwell.

“Y prawf gwirioneddol i lywodraeth y DU yw a fydd pawb yn rhannu yn yr adferiad, nid dim ond y breintiedig rai.

“Ac ni ddylem anghofio heddiw, wrth i fwy o bobl ddod o hyd i waith, bod bron i 20,000 o bobl ar hyd a lled Cymru yn treulio eu hail Nadolig yn olynol yn ddi-waith ac angen gwaith yn ddybryd.

“Mae yna gannoedd o ardaloedd â phroblemau cyflogaeth ar hyd a lled Prydain, gyda mwy na 1,700 o bobl sydd wedi bod yn hawlio budd-daliadau diweithdra yn yr hirdymor yn Rhondda Cynon Taf yn unig. Ni all gweinidogion y DU anwybyddu’r cymunedau sydd â rhagolygon cyflogaeth anobeithiol dim ond oherwydd bod rhannau eraill o’r wlad yn edrych yn fwy llewyrchus.”

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf ar y farchnad lafur, roedd gan 136 o ardaloedd awdurdod lleol fwy na 1,000 o bobl a oedd wedi bod yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith am fwy na 12 mis ym mis Tachwedd 2013.

NODIADAU I OLYGYDDION:

- - Mae’r ffigurau diweddaraf ar y farchnad lafur ar gael www.ons.gov.uk/ons/dcp171778_338181.pdf

Nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau – oedran a chyfrannau

             

ONS Cedwir Hawlfraint y Goron [gan Nomis ar 18 Rhagfyr 2013]

             
                     

dyddiad

November 2013

                 

oedran

16-64 oed

                 

hyd

Dros 1 flwyddyn

                 
                     

local authority: county / unitary

Cyfanswm

                 
                     

Caerdydd

2,755

                 

Rhondda, Cynon, Taf

1,785

                 

Caerffili

1,755

                 

Casnewydd

1,555

                 

Blaenau Gwent

1,140

                 

Abertawe

1,040

                 

Wrecsam

875

                 

Sir Gaerfyrddin

860

                 

Torfaen

770

                 

Merthyr Tudful

695

                 

Sir y Fflint

685

                 

Conwy

680

                 

Castell-nedd Port Talbot

670

                 

Pen-y-bont ar Ogwr

660

                 

Gwynedd

645

                 

Ynys Môn

640

                 

Sir Ddinbych

590

                 

Bro Morgannwg

570

                 

Sir Benfro

490

                 

Powys

360

                 

Sir Fynwy

285

                 

Ceredigion

220

                 
                     

Cyfanswm                                                                                 19,725

Nid yw ffigurau’r hawlwyr yn cynnwys pobl sy’n hawlio’r Credyd Cynhwysol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn http://www.nomisweb.co.uk/articles/742.aspx.

Mae'r cyfraddau ar gyfer awdurdodau lleol o 2012 ymlaen yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio trigolion canol 2012 ar gyfer y grŵp oedran priodol.