Issue date

Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU heddiw ar bwerau treth, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Martin Mansfield: "Rydym yn croesawu'r bwriad i ddatganoli pwerau sy'n galluogi Llywodraeth Cymru i godi arian i fuddsoddi mewn swyddi a thwf. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gyfrifol am nifer o brosiectau seilwaith mawr, yn cynnwys y gwaith o wella’r M4, gwaith yr oedd Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i'w wneud, ac mae ganddynt y gallu i wneud hyn yn awr. "Mae'n siomedig na fydd y doll teithwyr awyr yn cael ei sefydlu yng Nghymru, oherwydd byddai hyn wedi helpu Llywodraeth Cymru i ddelio ag effeithiau camreoliad y sector preifat o Faes Awyr Caerdydd. "Mae'r egwyddor o ddatganoli treth incwm yn gadarnhaol, a byddwn yn cyfrannu’n llawn yn y drafodaeth honno pan fydd pobl Cymru yn penderfynu. Fodd bynnag, mae’n rhaid datrys y dull cyffredinol o ariannu Cymru cyn y gall hyn fod yn ddewis hyfyw. Nid yw fformiwla Barnett, sydd angen ei diweddaru, yn rhoi cyllid digonol i ni ac mae’n rhaid ei moderneiddio fel y cam cyntaf. "Ni ddylem anghofio 'chwaith bod Llywodraeth y DU wedi torri cyllid Cymru wrth geisio cyflawni ei syniadaeth o ddarbodusrwydd. Mae'r DU gyfan yn cael ei hatal, ac mae’n rhaid i bolisi economaidd San Steffan newid os yw Cymru am wireddu ei photensial llawn. "Mae'r cyhoeddiad heddiw yn gyhoeddiad hwyr ond mae hefyd yn gam arwyddocaol i ddatganoli yng Nghymru. Ni ddylai brwydro mewnol yng Nghlymblaid y DU atal ail ran Comisiwn Silk - mae'r materion sydd yn y fantol yn rhy bwysig. Mae Cymru yn haeddu setliad datganoli ar yr un lefel â'r gwledydd datganoledig eraill yn y DU." diwedd