Toggle high contrast

Yr unig undeb sy’n ymroddedig i athrawon a phenaethiaid ar hyd a lled y DU

  • Rydym yn cynnig diogelwch, buddion a chymorth heb eu hail.
  • Cynigir cymorth proffesiynol drwy ein llinellau cyngor a chynghorwyr arbenigol ar gyfreithiau cyflogaeth.
  • Mynediad at hyfforddiant am ddim, cynigion yswiriant a chynigion disgownt y stryd fawr.
  • Mae eich aelodaeth am y 12 mis cyntaf am ddim (Telerau ac Amodau yn berthnasol).
Prif Fasnachau
Addysg
Meithrinfeydd a gofal plant
Ysgolion
Aelodaeth
Gwrywod 73,592 | Benywod 210,337 | Arall 133 | Cyfanswm 284,062
Rhai o’r cyflogwyr a gynrychiolir

Pob math o ysgolion a cholegau ar draws y DU gyfan gan gynnwys pob cyfnod addysg.

Ysgrifennydd Cyffredinol
Patrick Roach
Cost aelodaeth

Bydd athrawon sy'n ymuno â'r NASUWT am y tro cyntaf yn derbyn 12 mis o aelodaeth am ddim o'r pwynt y maent yn ymuno â'r Undeb.

Cynigir aelodaeth am ddim ar wahân i fyfyrwyr ac athrawon newydd gymhwyso.

Unwaith y byddant yn talu tanysgrifiadau, y gost i athro sy'n gweithio'n llawn amser yw £17.74 y mis neu £212.74 y flwyddyn a llai i athrawon rhan-amser, yn dibynnu ar oriau gwaith eu contract.

Manteision Aelodaeth

Pa gam bynnag ydych arno yn eich gyrfa, mae'r NASUWT yno i'ch cefnogi.

Byddwch yn cael mynediad i gynadleddau a digwyddiadau o'r radd flaenaf a chyrsiau DPP a phroffesiynol sydd wedi'u hachredu'n genedlaethol i’ch helpu i ddatblygu eich gyrfa, gyda nifer ohonynt yn cael eu darparu'n rhad ac am ddim neu gyda chymhorthdal ar gyfer aelodau NASUWT yn unig.

Rydym yn darparu cymorth pan fydd ei angen arnoch gan gynnwys llinellau cyngor dros y ffôn cenedlaethol sy'n darparu llinell wasanaeth gyntaf i aelodau a gefnogir gan rwydwaith o ganolfannau rhanbarthol yng Nghymru a chanolfannau cenedlaethol yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru gyda chymorth cyfreithiol arbenigol yn cael ei ddarparu pan fydd ei angen arnoch. Mae bod yn aelod o NASUWT yn golygu bod rhywun ar eich ochr chi yn y gwaith.

Mae holl aelodau NASUWT yn elwa o'r llais cyfunol cryf y mae aelodaeth o'r NASUWT yn ei ddarparu wrth eirioli ar ran aelodau i gyflogwyr ac i'r llywodraeth. Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth eang o fuddion a chynigion gan dros 250 o gwmnïau drwy’r wlad gan gynnwys 1000au o ostyngiadau ar y stryd fawr.

Cyfeiriad

The Rookery

2 Dyott Street

London

WC1A 1DE

Ffôn
020 7420 9670
Fax
0121 457 6208
Enable Two-Factor Authentication

To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).

Setup now