Negodi am Drawsnewid Cyfiawn - cwrs ar gyfer swyddogion proffesiynol undebau
This event has ended
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Mon, 13 Jun 2022 - 09:30 to
Mon, 27 Jun 2022 - 16:30
Cost
Am ddim
Trosolwg

Tiwtoriaid : Graham Petersen a John James

Hyd – 3 diwrnod o ddysgu – 1 diwrnod yr wythnos dros gyfnod o 3 wythnos olynol

Dyddiadau:  Dydd Mawrth 28 Medi, dydd Mawrth 5 Hydref a dydd Mawrth 12 Hydref 2021

Amser: 9.30 – 4.30

Lleoliad: Ar-lein

Cost: Am ddim

Cysylltu: John.James@coleggwent.ac.uk

Beth fydd y cwrs yn edrych arno?
Mae’r argyfwng hinsawdd a natur yn un o’r bygythiadau mwyaf difrifol a wynebwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi deddfu ar gyfer targedau hinsawdd newydd uchelgeisiol i gyrraedd sero-net erbyn 2050, gyda chamau pendant yn y degawd nesaf i leihau allyriadau tua dwy ran o dair. 

Bydd y newidiadau a gyflwynir dros y degawd nesaf yn effeithio ar weithwyr ar draws pob sector a gweithle. Fel undebau llafur, rydyn ni wedi ymrwymo i sefyll dros degwch i weithwyr, yn enwedig yn ystod cyfnodau o newid. Rydyn ni’n gwybod na fydd ‘trawsnewid cyfiawn’ yn digwydd ar ei ben ei hun, a bod gwaith yr undebau’n hanfodol er mwyn sicrhau bod buddiannau gweithwyr yn cael eu gwarchod yn y newidiadau sydd ar ddod. Mae un peth yn sicr – nid yw ‘busnes fel arfer’ yn strategaeth hyfyw.

Bydd y cwrs hwn yn helpu i arfogi swyddogion proffesiynol undebau llafur â gwybodaeth a syniadau am sut i ymateb yn strategol i’r her o roi llais i weithwyr ar y newid i economi sero-net.

Byddwn ni’n edrych ar y canlynol:

  1. Archwilio pam mae trawsnewid cyfiawn yn ganolog i strategaeth economaidd y dyfodol
  2. Adolygu polisïau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol ar newid hinsawdd
  3. Adolygu polisïau undebau llafur cenedlaethol a rhyngwladol
  4. Nodi polisïau economi werdd sector diwydiant
  5. Cael barn yr aelodau am flaenoriaethau trawsnewid cyfiawn
  6. Datblygu strategaethau negodi ar faterion blaenoriaeth yn y gweithle / gymuned

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer swyddogion cangen, cynrychiolwyr undebau ac unrhyw gynrychiolwyr eraill sydd â diddordeb mewn cael gwybod mwy am negodi ar gyfer trawsnewid cyfiawn yn y gweithle.

Sut mae gwneud cais:
Ceisiadau i: John James, Canolfan Astudiaethau Undebau Llafur, Coleg Gwent

Ffôn: 07527 450276

Cyfeiriad e-bost: John.James@coleggwent.ac.uk

Lleoliad: ar-lein

Oriau: 9.15am tan 16.45pm

Amser o'r gwaith i fynychu hyfforddiant:

Ceir canllawiau ar ryddhad gyda thâl ar dudalennau 6 - 7 o gyfeiriadur cyrsiau addysg TUC Cymru.

Mae canllawiau ACAS yn nodi ei bod yn arfer da i gyflogwyr gynnig amser o’r gwaith gyda thâl i gynrychiolwyr arbenigol fel cynrychiolwyr gwyrdd neu amgylcheddol fynychu hyfforddiant a chyflawni eu dyletswyddau.

Siaradwch â'ch undeb eich hun i gael cyngor am gael amser o'r gwaith ac am arweiniad ar unrhyw gytundebau/gweithdrefnau perthnasol y cytunwyd arnynt rhwng eich cyflogwr a'ch undeb.

Gwybodaeth am diwtoriaid y cwrs
Mae Graham Petersen yn diwtor addysg undeb llafur profiadol. Mae’n aelod o Undeb y Prifysgolion a’r Colegau, ac yn arfer bod yn Gydlynydd yr Amgylchedd yr undeb. Mae hefyd wedi cynrychioli Education International, ffederasiwn undebau byd-eang dros 30 miliwn o weithwyr yn y sector addysg, yn nigwyddiadau cynhadledd hinsawdd y Cenhedloedd Unedig.

Mae Graham yn aelod allweddol o’r Gynghrair Swyddi Gwyrdd sy’n gynghrair o gyrff anllywodraethol, undebau llafur a sefydliadau myfyrwyr, ac mae wedi ymgymryd â rôl ysgrifennydd a golygydd cylchlythyr y sefydliad. Mae’r Gynghrair Swyddi Gwyrdd wedi gweithio ar amrywiaeth o gynlluniau i hyrwyddo addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a swyddi.  

Mae Graham wedi ysgrifennu nifer o gyhoeddiadau’r TUC ar faterion amgylcheddol, ac yn ddiweddar roedd yn un o awduron Gweithleoedd gwyrddach ar gyfer trawsnewid cyfiawn - Pecyn cymorth gyda TUC Cymru. Rydym yn falch iawn bod Graham wedi gallu datblygu’r cwrs ‘Negodi ar gyfer Trawsnewid Cyfiawn’ newydd hwn ar gyfer Gwasanaeth Addysg TUC Cymru. Credwn y bydd yn rhan hanfodol o’n hyfforddiant ar yr hyn a fydd yn fater allweddol i’n mudiad dros y blynyddoedd nesaf.

Mae John James yn Gydlynydd Addysg TUC Cymru ar gyfer Coleg Gwent. Mae’n bosib bod llawer ohonoch eisoes yn adnabod John – mae wedi bod yn ymwneud â datblygu a darparu cyrsiau undebau llafur yng Nghymru ers 20 mlynedd bellach ac mae’n diwtor profiadol. Yn fwy diweddar, mae wedi datblygu ein cwrs ‘gwneud ein gweithleoedd yn fwy gwyrdd’ newydd ar gyfer cynrychiolwyr gwyrdd yng Nghymru.

Mae John hefyd yn cynrychioli ei undeb ei hun, UCU, ar lefel leol a chenedlaethol ac mae wedi codi nifer o faterion amgylcheddol ar yr agenda. Mae wedi cynrychioli’r TUC a UCU ar y llwyfan Ewropeaidd gan fynychu cyrsiau ac roedd yn gynrychiolydd ar baratoadau’r undebau llafur ar gyfer uwchgynhadledd Hinsawdd Paris.

Cod ymddygiad
Mae’r TUC wedi ymrwymo i drefnu gweithgareddau y gall pawb gymryd rhan ynddyn nhw mewn amgylchedd cynhwysol, parchus a diogel. Dydy'r TUC ddim yn goddef unrhyw fath o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol. Ni fydd ymddygiad neu sylwadau ymosodol, bygythiol, amharchus neu annerbyniol yn cael eu goddef. Mae hyn yn cynnal yr ymrwymiad a nodir yn rheolau’r TUC i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb ac i gael gwared ar bob math o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, rhagfarn a gwahaniaethu annheg. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob agwedd ar gyfathrebu mewn digwyddiad neu mewn cysylltiad ag ef, gan gynnwys postiadau ar gyfryngau cymdeithasol.  Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn ag ymddygiad rydych chi eisiau ei godi yna cysylltwch â ni ar e-bost: wtuc@tuc.org.uk

Hygyrchedd

Os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd eraill mae angen i ni wybod amdanynt, cysylltwch â john.james@coleggwent.ac.uk