Mae’n bleser gan TUC Cymru wahodd cynrychiolwyr o bob undeb (gan gynnwys y rhai sy'n disgwyl am hyfforddiant) i Gynhadledd Cynrychiolwyr Dysgu Undebau De Cymru ddydd Mercher 20 Chwefror 2018.
Cynigir y digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim a bydd yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd. Bydd yn gyfle i ddysgu a rhwydweithio â chynrychiolwyr a gwesteion eraill gan gynnwys ein siaradwyr gwadd a staff TUC Cymru.
Bydd themâu eleni yn edrych ar ‘Addysg Undebau, Dull Cangen Gyfan’ ac fe'ch anogir i wahodd un o’ch cydweithwyr yn y gangen i ddod gyda chi i ddysgu mwy am ein gwaith.
Bydd cyfle i fynychu dau weithdy y gallwch gofrestru ar eu cyfer ar y diwrnod - bydd rhagor o wybodaeth am y rhain a’r agenda ar gael yn fuan
Bydd y digwyddiad yn agor am 9.00 ar gyfer Cofrestru a byddwn yn gorffen y diwrnod am 16.00.
Cinio
Darperir cinio ysgafn. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion deiet arbennig cyn y digwyddiad.
Sut i fynd yno
SATNAV: CF5 6XB
Mewn Car
Mae arwyddion i'r Amgueddfa o gyffordd 33 o draffordd yr M4 (dilynwch yr arwyddion ffordd ar gyfer Amgueddfa Werin Cymru), gyda mynediad uniongyrchol o'r A4232.
Parcio
£5.00 y dydd. Dewch ag arian mân gyda chi oherwydd nid yw’r peiriannau’n derbyn arian papur na thaliadau â cherdyn. RHAD AC AM DDIM i ddeiliaid bathodynnau anabl, beiciau modur a bysus.
Ar Drên
Yr orsaf drên agosaf yw Parc Waungron sydd 2 filltir o Sain Ffagan. Trenau Arriva Cymru sy’n rhedeg y gwasanaethau. Mae Gorsaf Parc Waungron yn ymyl y prif lwybr bysiau i Sain Ffagan. Ymwelwch â Traveline Cymru i gynllunio eich taith.
Ar Fws
Mae bysus yn rhedeg rhwng Dinas Caerdydd ac Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan drwy gydol y flwyddyn:
Mae’r daith ar y bws rhwng yr Amgueddfa a chanol dinas Caerdydd yn cymryd tua 25 munud.
Gwefan Sain Ffagan:
https://museum.wales/stfagans/
Costau Teithio
Dylai cynrychiolwyr holi eu hundebau ymlaen llaw i weld a ydyn nhw’n gallu helpu â chostau teithio. Bydd hyn yn dibynnu ar bolisi eich undeb. Nid yw TUC Cymru yn gallu helpu â chostau teithio.
Ymholiadau: Angharad Halpin (ahalpin@tuc.org.uk)