Sophie

Mae gweithio ym maes lletygarwch yn gallu bod yn ansicr iawn. Mae yno lawer iawn o bobl ifanc a gweithwyr mudol. Gall eich sefyllfa fod yn wan iawn os nad ydych yn gwybod eich hawliau. Dyna pam yr ymunais i ag Unite. Mae’n bwysig gwybod bod yr undeb yno i chi.

Fel rhan o’r undeb, rwyf wedi ymwneud ag ymgyrchoedd sy’n cael effaith enfawr ar fywydau beunyddiol gweithwyr.

Yn ddiweddar fe gynhalion ni ymgyrch ar dipio teg. Yn aml mae tips staff gweini yn cael eu dwyn gan eu cwmni o daliadau a wneir drwy gerdyn. Roeddem wedi ’laru ar glywed am arferion ofnadwy yn y sector a hithau i weld yn amlwg i ni mai staff blaen y tŷ a'r gegin ddylai fod yn cael y tips.

Fe ganolbwyntion ni ar Pizza Express. Fe gynhalion ni brotestiadau, denu diddordeb y cyfryngu a chael staff y bwyty i ymuno â'r undeb.

Dangosodd yr ymgyrch dros dips teg fod gweithredu wedi’i drefnu, ar y cyd, yn gallu bod yn effeithiol tu hwnt.

Dechreuodd cwsmeriaid ofyn i ble’r oedd eu harian yn mynd. Rhoddodd Pizza Express y gorau i’w “ffi weinyddol” honedig ar daliadau â chardiau yn dilyn y gweithredu. Felly hefyd gadwyn byrgers Giraffe. Gwnaeth y llywodraeth hyd yn oed gyhoeddi adroddiad i hyrwyddo arferion tipio teg oherwydd ein hymgyrch.

Dangosodd imi faint o bŵer sydd gennym. Amlygodd wir fanteision undebau llafur er gwneud newidiadau cadarnhaol, o ddifrif ym mywydau pobl a bod yn rym er da mewn cymdeithas.