Cynrychiolwyr dysgu’r undebau yw’r allwedd

Awdur
Gareth Hathway
Union Learning Support Officer
Math o adroddiad
Research and reports
Dyddiad cyhoeddi
Key findings

Mae adroddiad annibynnol a oedd yn edrych ar brofiadau dysgwyr o Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi tynnu sylw at rôl allweddol Cynrychiolwyr Dysgu Undebau yn y gweithle, yn ogystal â’r effaith y mae dysgu dan arweiniad undebau wedi’i chael ar gyflawni nifer o flaenoriaethau allweddol ar gyfer addysg i oedolion yng Nghymru.

Dywedodd nifer enfawr o ymatebwyr – 95% – fod y cyfle dysgu a gawsant drwy eu hundeb yn ddefnyddiol ac yn berthnasol iddyn nhw a’u gwaith.

Dyma rai o’r prif ganfyddiadau:

Mae dysgwyr Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yn fwy tebygol o gamu ymlaen i ddysgu pellach ac annog pobl eraill i wneud yr un fath – dywedodd 84% fod Cronfa Ddysgu Undebau Cymru wedi’u hannog i gamu ymlaen yn y gwaith ac roedd tua 2 o bob 3 wedi argymell eu cwrs i gyd-weithiwr.

Mae cymorth Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yn gwella cyflogadwyedd a hyder yn y gweithle – dywedodd 73% o ymatebwyr yr arolwg bod hyn wedi gwella eu perfformiad yn y gwaith a dywedodd 82% fod eu cyfle undeb wedi rhoi mwy o hunanhyder iddyn nhw

Er mai dim ond rhan fach o gychwyn cyfnod clo 2020 yr oedd cyfnod yr arolwg yn ei gynnwys, mae’r adroddiad yn nodi bod arwyddion yn barod bod Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yn cynyddu’r gefnogaeth i iechyd a lles gweithwyr yng Nghymru

Mae data a gasglwyd gan TUC Cymru ar gyfer y cyfnod hwn yn cefnogi’r tueddiadau hyn hefyd. Roedd 89% o brosiectau wedi adrodd eu bod yn datblygu dysgu yn y gweithle yn benodol gyda’r nod o gefnogi dysgwyr anodd eu cyrraedd a dysgwyr anhraddodiadol yn y gweithle, ac roedd prosiectau Cronfa Ddysgu Undebau Cymru wedi helpu bron i 4,000 o weithwyr i gamu ymlaen i ddysgu pellach y tu hwnt i’w cwrs gwreiddiol y llynedd.

Mae cefnogaeth gan Gynrychiolydd Dysgu’r Undebau yn hollbwysig – mae arolwg dysgwyr Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yn dangos bod 98% o ddysgwyr undeb yn credu bod cefnogaeth Cynrychiolwyr Dysgu’r Undebau yn rhan allweddol o’u llwyddiant

Mae’r adroddiad yn dangos bod cyfranogwyr yn llai tebygol o ddweud bod yr hyfforddiant yn ddefnyddiol neu’n berthnasol os mai rheolwyr llinell oedd wedi pennu y byddai’r math hwnnw o hyfforddiant yn ddefnyddiol. I’r gwrthwyneb, mewn enghreifftiau lle roedd yr undeb wedi pennu’r math o hyfforddiant, roedden nhw’n cael eu hystyried yn fwy defnyddiol a pherthnasol.

Rydym yn gwybod, fel y mae’r adroddiad yn ei ddangos, fod llais y gweithiwr yn allweddol ar gyfer datblygu’r agenda sgiliau yn y gweithle. Dyna pam ein bod wedi trefnu digwyddiad ar-lein am ddim i weld beth mae undebau yn ei wneud mewn cysylltiad â’r mater hwn, a rôl hollbwysig Cynrychiolwyr Dysgu'r Undebau yn hyn o beth.


WULF celebration cake
Mwy o'r TUC