Dyddiad cyhoeddi
Gallai bron i 60,000 o swyddi gael eu creu yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd nesaf drwy fuddsoddiad y Llywodraeth mewn prosiectau seilwaith allweddol, yn ôl adroddiad newydd gan TUC Cymru a gyhoeddwyd heddiw.

Mae'r ymchwil – a wnaed ar ran TUC Cymru gan Transition Economics – yn dangos y gallai gwario'n gyflym ar brosiectau fel tai cymdeithasol, trafnidiaeth gyhoeddus a datgarboneiddio cyfrannu'n sylweddol at adferiad yr economi.

Wedi'i ddadansoddi yn ôl sector, byddai creu swyddi rhagamcanol o fuddsoddiad o £6bn mewn seilwaith yn golygu:

  • 27,000 o swyddi mewn adeiladu tai ac ôl-osod effeithlonrwydd ynni
  • 18,000 o swyddi mewn uwchraddio trafnidiaeth
  • 9,000 o swyddi ym maes ynni, gweithgynhyrchu ac uwchraddio seilwaith band eang
  • 5,000 o swyddi mewn gwelliannau tir, coedwigaeth, ac amaethyddiaeth

Byddai'r swyddi hyn o fudd i rai o'r sectorau a demograffeg sy'n cael eu taro caletaf gan yr argyfwng Covid-19. Byddai dros 75% o'r swyddi yn cael eu creu mewn sectorau sy'n draddodiadol yn cyflogi gweithwyr nad ydynt yn raddedigion.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

"Y ffordd orau o ddiogelu ein heconomi yw cadw pobl mewn gwaith. A dyna  pam ein bod wedi bod yn galw am estyniad i'r cynllun cadw swyddi y tu hwnt i fis Hydref.

"Ond mae angen gweithredu ar frys hefyd i greu cyfleoedd swyddi newydd, teg a chynhwysol i bob gweithiwr yng Nghymru. Rydym wedi dioddef o danfuddsoddiad hirdymor yn ein seilwaith cenedlaethol. Bydd buddsoddi mewn prosiectau gwyrdd ac uchelgeisiol yn awr nid yn unig yn creu gwaith i filoedd o bobl yng Nghymru ond bydd hefyd yn cynnig manteision hirdymor enfawr i economi Cymru, sy'n arbennig o bwysig wrth i ni adael yr UE.

"Mae costau diffyg gweithredu yn llawer mwy na'r costau o wneud y buddsoddiadau hyn. Mae angen i Lywodraeth y DU ddarparu'r lefel o gyllid sydd ei hangen ar Gymru."

Wrth sôn am gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe:

"Mae'r dadansoddiad hwn gan TUC Cymru yn dangos potensial buddsoddi mewn sectorau allweddol er mwyn galluogi adferiad gwyrdd, teg a llewyrchus o Covid-19.

"Mae angen adferiad ar frys sy'n cynyddu cydraddoldeb, yn darparu sgiliau, hyfforddiant  a chyfleoedd cyflogaeth mewn diwydiannau'r dyfodol, wrth gymell pob sector yng Nghymru i gyflawni nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r dyfodol.

"Mae'r dadansoddiad hwn yn dangos bod hyn o fewn cyrraedd drwy fuddsoddiad doeth a phenderfyniadau ysgogi beiddgar."