Dyddiad cyhoeddi

Mae TUC Cymru am weld cytundeb Brexit sy'n amddiffyn swyddi da a hawliau gweithwyr.

Yr hyn sy'n bwysig yw cael y cytundeb orau i weithwyr - un sy'n helpu pawb, yn hytrach na busnesau mawr a'r cyfoethog yn unig.

Nid y cytundeb Brexit yn unig sy'n bwysig. Beth bynnag fo'r cytundeb Brexit, mae rhaid sicrhau llawer mwy o swyddi da yng Nghymru. Rhaid hefyd diogelu ein GIG a'n gwasanaethau cyhoeddus.

Dyna pam mae angen cynllun arnom sy'n rhoi blaenoriaeth i bobl sy'n gweithio. Dechreua hynny wrth gael y cytundeb cywir ar gyfer Brexit: un sy'n amddiffyn hawliau gweithwyr, ac yn helpu i greu mwy o swyddi da.

Mae undebwyr llafur yn negodwyr. Gwyddom y bydd angen cyfaddawdu ar unrhyw gytundeb. Nid oes opsiwn perffaith.

Ond yn y pendraw, credwn mai'r ffordd orau o ddiogelu swyddi a hawliau gweithwyr yw trwy fod yn y farchnad sengl a'r undeb tollau.

Mae llawer o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar fasnach rhwydd gyda gwledydd yr UE.

Mae cwmnïau o Gymru yn gwerthu dros £10 biliwn o nwyddau a gwasanaethau yng ngwledydd yr UE bob blwyddyn. Dyna 60 y cant o'n holl fasnach. Yn ogystal, mae cwmnïau o bob cwr o'r byd yn sefydlu yma i wneud eu cynnyrch ac yna eu gwerthu yn wledydd yr UE. Mae gwerthu nwyddau a gwasanaethau yng ngwledydd yr UE yn cefnogi 200,000 o swyddi yng Nghymru.

Nid oes unrhyw rwystrau i wneud busnes yn wledydd yr UE - tra byddwn yn y farchnad sengl a'r undeb tollau.

Ond os nad ydym yn y farchnad sengl a'r undeb tollau, bydd muriau masnach yn codi. O ganlyniad byddai llawer o swyddi dan berygl. Ac fe fyddai'n rhwystro mwy o gwmnïau tramor rhag dewis sefydlu ffatrïoedd newydd yn y DU - sy'n golygu ein bod yn colli swyddi newydd. Dyna pam mae TUC Cymru eisiau i Gymru a'r DU aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau. Dyna pam yr ydym yn cefnogi agwedd synhwyrol Llywodraeth Cymru tuag at Brexit sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn rhoi blaenoriaeth i anghenion yr economi a diogelu swyddi.

Mae'r prisiau'n is os ydym yn yr undeb tollau. Nid oes unrhyw dollau ar unrhyw beth yr ydym yn eu prynu o wledydd yr UE. Mae hynny'n golygu bod y fasged fwyd wythnosol yn rhaTUCh. Mae pawb wedi sylwi bod prisiau yn y siopau eisoes wedi codi ers y bleidlais Brexit. Y tu allan i'r undeb tollau, gallent godi hyd yn oed yn fwy.

Daw llawer o hawliau pwysig yn y gwaith o'r farchnad sengl - megis yr hawl i wyliau â thâl, hawliau i weithwyr rhan-amser, amser i ffwrdd i famau a dadau sy'n gweithio, cyflog cyfartal i ferched, a chyfyngiadau ar oriau gwaith.

Y tu mewn i'r farchnad sengl, mae'r hawliau hyn yn cael eu gwarantu. Ond y tu allan, gellid erydu'r hawliau hynny dros amser gan wleidyddion y DU nad ydynt yn poeni am weithwyr.

Rhaid hefyd ystyried y dyfodol. Ar ôl Brexit, credwn y dylai gweithwyr Cymru bob amser gael yr un hawliau neu hawliau gwell â gweithwyr mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Mae bod yn y farchnad sengl yn ein helpu ni i ymladd am hawliau gwell yn y gwaith.

Nid yw cael y cytundeb orau bosibl ar Brexit yn ddigon - mae angen i ni wneud Cymru'n genedl Gwaith Teg.

Dylai cyflogwyr wrthsefyll y demtasiwn i dorri costau a thorri corneli trwy roi mwy o weithwyr ar gontractau ansicr. Mae ymchwil gan undebau wedi canfod fod y nifer o weithwyr ar gontractau oriau sero ac asiantaeth wedi mwy na dyblu yng Nghymru ers 2011. Mae hyn yn gorfod stopio.

Nid yw gweithwyr sy'n symud i Brydain yn gyfrifol am delerau ac amodau gwael yn y gweithle. Yn hytrach, y cyflogwyr sy'n eu hecsbloetio sy'n gyfrifol. Dyna pam mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu - p'un a ydym yn y farchnad sengl neu allan ohoni.

Rydym wrth ein boddau gan ymrwymiad y Prif Weinidog i wneud Cymru yn genedl Gwaith Teg a gobeithiwn y bydd ei olynydd yn cyflawni'r ymrwymiad hwnnw mewn modd ymarferol. Yr wythnos hon, sefydlwyd comisiwn Gwaith Teg, a bydd yn rhaid iddo gyflwyno opsiynau uchelgeisiol a rhagweithiol ar gyfer deddfwriaeth ac ymyriadau gan y llywodraeth sy'n mynd i'r afael â chyflogau isel a gwaith ansicr yng Nghymru. Mae Brexit yn gwneud y gwaith hwn hyd yn oed yn bwysicach.

Mae'r ddadl am Brexit yn gymhleth iawn. Mae rhai gwleidyddion eisiau i chi golli diddordeb.

Ond mae'r hyn yr ydym ei eisiau yn syml iawn. Yr hyn sy'n bwysig yw diogelu swyddi a hawliau pobl yn y gwaith, ac adeiladu cenedl Gwaith Teg lle mae gan bawb swydd dda.

Dyna beth mae TUC Cymru yn ei wneud - a dyna'r hyn yr ydym ei eisiau gan Brexit.

Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru