Dyddiad cyhoeddi
Mae ystadegau swyddogol newydd yn dangos bod tlodi oed gweithio yng Nghymru yn parhau, er gwaethaf y twf cyflogaeth.
Rhaid i'r Llywodraeth gymryd camau cadarnhaol i wella cyflogau a grymuso gweithwyr, yn ôl TUC Cymru.

Mae dadansoddiad TUC Cymru o'r ffigurau tlodi swyddogol newydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau) wedi canfod bod tlodi oed gweithio yng Nghymru heb leihau ers 2010/11, er bod diweithdra cenedlaethol wedi lleihau'n sylweddol.

Y gyfran o bobl oed gweithio a oedd yn byw mewn tlodi yn 2010/11 oedd 22%, o'i chymharu â 23% yn 2017/18, yn ôl ffigurau newydd heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae hyn er gwaethaf diweithdra yng Nghymru yn disgyn o 7.7% yn 2011 i 44% yn 2018.

Dywedodd Nisreen Mansour, Swyddog Polisi TUC Cymru:

"O'r blaen, gwaith oedd y ffordd orau allan o dlodi, ond mae mwy a mwy o bobl yn gweld nad yw hynny'n wir iddyn nhw.

"Mae gormod o swyddi yng Nghymru yn talu cyflogau tlodi ac yn darparu ychydig iawn o sicrwydd. Does dim digon yn weddill gan y gweithwyr i adeiladu bywyd da i'w hunain a'u teuluoedd.

"Mae angen i ni ail-ddylunio ein heconomi i wneud pethau'n decach. Fe ddylai pobl gael rhagor o reolaeth dros eu bywyd gwaith, a chyfran decach o'r cyfoeth maen nhw'n ei greu. Dyna pam ein bod yn ymgyrchu dros wneud Cymru yn Genedl Gwaith Teg - lle mae gan weithwyr lais go iawn yn eu tâl a'u hamodau. Fe allwn ni frwydro yn erbyn cynnydd tlodi mewn gwaith drwy rymuso gweithwyr drwy gyfrwng undebau llafur."

DIWEDD

Nodyn y golygyddion

Nodiadau i olygyddion

Tlodi oed gweithio a diweithdra yng ngwledydd a rhanbarthau'r DU*

Gwlad neu ranbarth y DU

(1) Tlodi oed gweithio %

(2) Cyfradd diweithdra %

2010/11

2017/18

Newid (pwyntiau canran)

Ionawr-Mawrth 2011

Ionawr-Mawrth 2018

Newid (pwyntiau canran)

Gogledd-ddwyrain Lloegr

22

23

+1

10.4

4.9

-5.5

Gogledd-orllewin

23

22

-1

7.8

4.3

-3.5

Swydd Efrog a Humber

23

21

-2

9.2

4.6

-4.6

Dwyrain Canolbarth Lloegr

21

20

-1

7.7

4.0

-3.7

Gorllewin Canolbarth Lloegr

24

22

-2

9.5

4.8

-4.7

Dwyrain Lloegr

18

19

+1

6.2

3.9

-2.3

Llundain

28

25

-3

9.1

4.9

-4.2

De Ddwyrain Lloegr

16

18

+2

5.7

3.4

-2.3

De Orllewin Lloegr

20

18

-2

6.6

3.5

-3.1

Cymru

22

23

+1

7.7

4.4

-3.3

Yr Alban

19

23

+1

7.7

4.9

-5.5

Gogledd Iwerddon

19

22

-1

7.2

4.3

-3.5

* Ystyrir bod gweithiwr mewn tlodi oed gweithio os yw incwm y cartref yn llai na 60% o'r incwm cartref canolrifol (ar ôl costau tai).

Ffynhonnell: Daw'r ffigurau tlodi o Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog 1994/95-2017/18 a'r ffigurau diweithdra o'r Arolwg o'r Llafurlu. Mae'r ddau yn gyhoeddiadau i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

- Mae Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog yn darparu data ar lefel genedlaethol ar gyfer cyfran yr oedolion oed gweithio sy'n byw dan y ffin tlodi sydd ag o leiaf un oedolyn mewn gwaith. Dengys y data newydd heddiw mai 60% oedd y ffigur hwn yn 2017/18. Mae hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o'r bobl oed gweithio sy'n byw dan y ffin tlodi mewn aelwydydd sy'n gweithio. Nid yw'r sampl data yn ddigon mawr i alluogi is-gategoreiddio yn yr un modd ar lefel ranbarthol.

- Y newidiadau sydd eu hangen i roi diwedd ar dlodi mewn gwaith: Mae TUC Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Partneriaeth Gymdeithasol. Byddai Deddf o'r fath yn sbardun i newid diwylliant ym marchnad lafur Cymru, lle mae llais unedig gweithwyr yn cael ei gydbwyso yn erbyn llais eu cyflogwr. Byddai:

  • Yn darparu Gwaith Teg drwy arfau polisi a chyllid, gan godi'r sylw a roddir i gydfargeinio
  • Yn diogelu hawliau gweithwyr drwy orfodaeth fwy effeithiol
  • Yn cryfhau'r trefniadau Partneriaethau Cymdeithasol rhwng undebau, cyflogwyr a'r llywodraeth

TUC Cymru yw llais Cymru yn y gwaith. Gyda 49 o aelod-undebau, mae TUC Cymru yn cynrychioli ychydig dros 400,000 o weithwyr. Rydym ni’n ymgyrchu dros driniaeth deg yn y gwaith ynghyd â chyfiawnder cymdeithasol gartref a thramor.

Swyddfa Genedlaethol y Wasg TUC
media@tuc.org.uk
020 7467 1248

Wales TUC Cymru

wtuc@tuc.org.uk

029 2034 7010