Yn erbyn Hiliaeth
Dyddiad: Dydd Sul 20 Mawrth 2022 (dydd Sul), canol dydd
Ymgynnull: 12 ganol dydd ar bwys Neuadd y Ddinas.
Gorymdeithio i'r Senedd ar gyfer rali am 2.30pm
MAE'N AMSER I'r mwyafrif gwrth-hiliol amlygu eu hunain.
Mae'r llywodraeth wedi ymateb i ofynion y mudiad hanesyddol 'mae Bywydau Duo o Bwys' i roi terfyn ar hiliaeth sefydliadol ac effaith anghymesur Covid-19 drwy wadu ei bodolaeth.
Mae'r ymdrechion i ddychryn ffoaduriaid ac ymfudwyr yn cynyddu, gan arwain at farwolaethau ym Môr y Canoldir a'r Sianel wrth i lywodraethau geisio atgyfnerthu ffiniau 'Caer Ewrop'.
Rydym yn gweld y cynnydd rhyngwladol mewn hiliaeth, Islamoffobia a gwrth-semitiaeth – yn cael ei gyfreithloni gan lywodraethau sy'n defnyddio gwleidyddiaeth 'rhannu a rheoli' yn fwyfwy.
Er mwyn trechu hyn, mae arnom angen gwrthwynebiad torfol yn erbyn yr ymosodiadau hiliol gan gael ein ysbyrdoli gan y protestiadau BDoB byd-eang, drwy gymunedau yn paratoi i atal eu cymdogion rhag cael eu halltudio a'r gefnogaeth aruthrol i bêl-droedwyr a chricedwyr sydd wedi wynebu hiliaeth a cham-driniaeth oddi wrth y sefydliad.
Ar ddydd Sul 20 Mawrth byddwn yn gorymdeithio yng Nghaerdydd fel rhan o benwythnos o brotestiadau rhyngwladol i nodi Diwrnod Gwrth-Hiliaeth y Cenhedloedd Unedig.
Ymunwch â ni
Dywedwn: Mae croeso i ffoaduriaid ac ymfudwyr – Mae Bywydau Duon o Bwys – Na i hiliaeth, Islamoffobia, gwrth-semitiaeth a ffasgaeth.
Bydd trafnidiaeth yn mynd i'r orymdaith o bob cwr o Gymru. I gael gwybod a oes unrhyw un yn dod o'ch ardal, anfonwch neges atom yn standuptoracismwales@gmail.com, drwy eich grŵp SUTR lleol neu ein cyfryngau cymdeithasol. I gymryd rhan yn ein hymgyrchoedd, cysylltwch â ni.