Ymwybyddiaeth o iechyd meddwl - cwrs 2 diwrnod
This event has ended
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Wed, 14 Oct 2020 - 09:15 to
Wed, 21 Oct 2020 - 16:45
Trosolwg

Mae iechyd meddwl yn y gweithle yn dod yn fwyfwy pwysig. Mae’r cwrs hwn yn trafod pam ei fod yn bwysig a sut gall cynrychiolwyr ddelio â phroblemau iechyd meddwl.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Mae’r cwrs hwn ar gyfer cynrychiolwyr sydd eisiau gwella eu hymwybyddiaeth o sut gall y gweithle effeithio ar iechyd meddwl ac sydd am wella polisïau ar gyfer eu haelodau.

Beth fydd y cwrs yn fy helpu i’w wneud?

Bydd y cwrs yn helpu cynrychiolwyr i wneud y canlynol:

  • Datblygu dealltwriaeth well o Iechyd Meddwl yn gyffredinol.
  • Datblygu dealltwriaeth well o broblemau Iechyd Meddwl sy’n gysylltiedig â gwaith.
  • Datblygu dealltwriaeth well o Gyfraith Gwahaniaethu ar sail Anabledd a sut mae’n berthnasol i bobl â phroblemau Iechyd Meddwl.
  • Defnyddio astudiaethau achos a chwarae rôl i ddatblygu sgiliau ymarferol ar gyfer delio â phroblemau sy’n gysylltiedig ag Iechyd Meddwl.
  • Llunio cynllun gweithredu i weithio gydag aelodau a chyflogwyr i ddatblygu strategaeth ar gyfer problemau Iechyd Meddwl.

Cysylltwch â John James, Canolfan Astudiaethau Undebau Llafur, Coleg Gwent,
Ffôn: 07527 450276
E-bost: John.James@coleggwent.ac.uk 
Lleoliad: ar-lein