Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim a bydd yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ar ddydd Mawrth, 21 Ebrill 2020. Bydd yn dechrau am 9 am.
Bydd y seminar yn gyfle i ddysgu a rhwydweithio â chynrychiolwyr a gwesteion eraill gan gynnwys ein siaradwyr gwadd a staff TUC Cymru.
Bydd TUC Cymru yn lansio ein pecyn cymorth newydd ar gyfer Gweithwyr Hŷn.
Byddwn yn cynnig cyfarfodydd briffio a gweithdai ar amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud â chydraddoldeb, fel:
Byddwn yn casglu rhoddion i Llamau, elusen yng Nghaerdydd a sefydlwyd 30 mlynedd yn ôl i gynnig lle diogel i aros i bobl ifanc yn eu harddegau sy’n ddigartref. Ers hynny, rydym wedi cefnogi dros 67,000 o bobl ifanc, menywod a’u plant sydd naill ai’n ddigartref neu sy’n wynebu digartrefedd.
Os hoffai unrhyw gynrychiolydd gyfrannu, byddwn yn falch o dderbyn y canlynol:
Bydd cyfle i sgwrsio â gwahanol fudiadau sy’n ymwneud â chydraddoldeb wrth ein stondinau, er mwyn i chi allu holi cwestiynau, creu cysylltiadau a gweld pa ymgyrchoedd sydd ganddynt.
Bydd y Seminar Hyfforddi a Datblygu hwn yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr o bob cwr o Gymru i ddiweddaru eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn gwahanol feysydd. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Felicity Stock yn fstock@tuc.org.uk
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cysylltu â’ch undeb cyn gwneud cais i ddod i'r seminar a holwch beth yw ei pholisïau treuliau. Efallai y bydd yn gallu eich helpu chi os byddwch yn cael trafferth cael amser rhyddhau i ddod i'r seminar.
Cofiwch: os byddwch yn canslo ar y funud olaf, mae’n bosibl y byddwn yn adennill costau gan eich undeb os na fyddwch yn rhoi gwybod i ni mewn da bryd.