Mae’n bleser gan TUC Cymru wahodd cynrychiolwyr ac aelodau o bob undeb i fynychu ein digwyddiad sy’n nodi Mis Hanes Pobl Dduon 2019 ddydd Mercher 16 Hydref.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim a bydd yn cael ei gynnal yn swyddfa Unite Cymru yn 1 Ffordd y Gadeirlan. Bydd y sesiwn yn gyfle i ddysgu a rhwydweithio â chynrychiolwyr a gwesteion eraill gan gynnwys ein siaradwyr gwadd a staff TUC Cymru.
Rhoddion
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond byddwn yn casglu bwyd tun ar gyfer banc bwyd lleol. Dewch â rhoddion gyda chi.
Cinio
Darperir cinio ysgafn. Cofiwch roi gwybod i ni am unrhyw ofynion dietegol cyn y digwyddiad.
Dyddiad ac amser
Dydd Mercher 16 Hydref 2019. 10am – 4pm.
Cyfeiriad
Adeilad Unite
1 Ffordd y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9SD
Mewn Car
Mae’r lleoliad ar groesffordd Heol y Bont-faen (A4161) a Ffordd y Gadeirlan (A4119).
Parcio
Does dim lle parcio yn 1 Heol y Gadeirlan, ond mae gan y cyngor faes parcio yng Ngerddi Sophia (Cod post: CF11 9JU, 284 lle parcio). Mae’r maes parcio oddeutu 5-7 munud o waith cerdded o leoliad y digwyddiad. Ceir manylion llawn, gan gynnwys costau parcio a meysydd parcio eraill y cyngor yma: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/parcio/Meysydd-parcio/Pages/Meysydd-parcio.aspx
Ar Drên
Gellir cyrraedd y lleoliad o bob un o’r pedair gorsaf reilffordd sydd wedi’u lleoli o fewn 1 filltir i’r safle. Caerdydd Canolog, Parc Ninian, Cathays a Heol y Frenhines Caerdydd.
Ar Fws
Mae bysiau’n rhedeg rhwng Canol Dinas Caerdydd a’r lleoliad; mae’r safle bws agosaf yw Ysbyty Dewi Sant, sydd llai na munud i ffwrdd o’r safle – bysiau rhif 13, 32A, 61, 66, 96 a X1. Mae’r daith ar y bws o Ganol Dinas Caerdydd yn cymryd tua 5 munud.
Costau Teithio
Dylai cynrychiolwyr holi eu hundebau ymlaen llaw i weld a ydyn nhw’n gallu helpu gyda chostau teithio. Bydd hyn yn dibynnu ar bolisi eich undeb. Nid yw TUC Cymru yn gallu helpu gyda chostau teithio.
Ymholiadau: Matthew Detzler (wtuc@tuc.org.uk)