Er bod gweithwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn fwy tebygol o fod yn aelodau o undebau llafur, maent yn dal i gael eu tangynrychioli fel cynrychiolwyr undeb, ymgyrchwyr, staff, swyddogion, arweinwyr gwleidyddol a gwneuthurwyr newid. Mae angen i ni annog, addysgu a chefnogi’r rheini sydd â diddordeb mewn camu i fyny yn ein mudiad.
Mae Tasglu Gwrth-hiliaeth y TUC a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr her hon. Mae TUC Cymru yn ymateb drwy drefnu rhaglen ddatblygu gyffrous ar gyfer y genhedlaeth nesaf o Arweinwyr Du. Rydym yn gobeithio y bydd y rhaglen yn helpu i ganfod, ysgogi a denu aelodau a gweithredwyr talentog Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Bydd rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du TUC Cymru yn cael ei chynnal ddechrau 2023. Bydd yn rhoi cyfle i chi ddysgu am strwythur, amrywiaeth, blaenoriaethau ac arweinyddiaeth y mudiad undebau llafur. Bydd hefyd yn rhoi'r hyder a'r adnoddau i chi allu cymryd mwy o ran yn strwythurau trefnu, dylanwadu a gwneud penderfyniadau eich undeb.
Ymunwch â’n sesiwn ar-lein am:
12:30 - 14:30
17 Tachwedd 2022
i gael gwybod mwy am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan y rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du, ac i ofyn eich cwestiynau.
Ar ôl cofrestru, byddwch yn cael e-bost cadarnhau a fydd yn cynnwys gwybodaeth ynghylch ymuno â’r cyfarfod.
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer aelodau undebau llafur Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sydd â diddordeb mewn cael gwybod mwy am raglen Datblygu Ymgyrchwyr Du TUC Cymru.
Mae’r digwyddiad hefyd ar gyfer unrhyw un mewn undebau llafur sydd eisiau gwybod sut gallan nhw gefnogi ymgyrchwyr a chynrychiolwyr undebau llafur Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i chwarae mwy o ran yn eu hundebau.
Ar draws y TUC a’n undebau cysylltiedig, mae gennym bobl wych ar Bwyllgorau Hil a seddi wedi’u cadw, ond mae angen ymgyrchwyr a chynrychiolwyr Du newydd arnom sy’n cystadlu am swyddi ar bob lefel. Byddant yn ein helpu i ymestyn ein hamrywiaeth, sicrhau tegwch a gwneud i undebau edrych yn fwy tebyg i’r gweithlu rydym yn ceisio ei gynrychioli, ac adlewyrchu eu buddiannau yn llawn.
Gwnewch eich rhan i’n helpu ni i greu mudiad undebau llafur mwy cynhwysol ac amrywiol yng Nghymru drwy ein helpu ni i ganfod aelodau posibl a allai fod â diddordeb yn ein rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du, a’u hannog i ymuno. Weithiau, mae bob un ohonom angen ychydig o gefnogaeth cyn mynd amdani. Gallai ymuno â’r digwyddiad hwn fod yn gam cyntaf i symud ymlaen at bethau gwych!