Rhwydwaith gweithleoedd gwyrddach
This event has ended
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Thu, 05 Aug 2021 - 10:30 to 12:15
Cost
Am ddim
Trosolwg

Mae TUC Cymru wedi sefydlu rhwydwaith newydd i gefnogi cynrychiolwyr undebau llafur sydd am hybu gweithleoedd gwyrddach a chynaliadwyedd. Ymunwch â ni ar gyfer y rhwydwaith cyfeillgar a chefnogol hwn sy’n agored i bob cynrychiolydd a gweithredwr, gan gynnwys cynrychiolwyr gwyrdd, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr undebau, cynrychiolwyr dysgu undebau ac unrhyw gynrychiolwyr eraill sydd â diddordeb yn y pwnc.

Bydd y grŵp yn cwrdd ar-lein oddeutu bob yn ail fis. Bydd pob cyfarfod yn cynnwys siaradwyr gwadd i archwilio gwahanol bynciau, yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr rwydweithio a rhannu arferion da, ac yn cynnwys diweddariad gan TUC Cymru.

Bydd ein cyfarfod nesaf ar-lein ddydd Iau 5 Awst 10.30 – 12.00 Bydd y cyfarfod yn canolbwyntio ar lunio ymgyrchoedd hinsawdd yn y gweithle yn y cyfnod cyn uwchgynhadledd hinsawdd nesaf y Cenhedloedd Unedig, COP26, a gynhelir yn Glasgow fis Tachwedd eleni. Byddwn yn trafod:

  • Cynnal digwyddiadau ac ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth yn y gweithle
  • Beth yw COP26 a beth yw rôl a blaenoriaethau undebau?
  • Cynlluniau ar gyfer ‘Diwrnod Ystyried yr Hinsawdd a Chyflogaeth yn ein Gwaith’ – y diwrnod gweithredu byd-eang ar 22ain Medi

Bydd cyfle i gynnal trafodaethau grŵp, rhwydweithio ac i drafod â’r panel.

Mae’r rhwydwaith yn cael ei gydlynu gan John James, Cydlynydd Astudiaethau Undebau Llafur yng Ngholeg Gwent a Jo Rees o TUC Cymru.

Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad hwn ac os oes gennych chi unrhyw syniadau am bynciau neu siaradwyr mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, anfonwch e-bost i jrees@tuc.org.uk gyda’ch awgrymiadau.

Os hoffech gael rhagor o syniadau a gwybodaeth am yr hyn mae undebau’n ei wneud i greu gweithleoedd gwyrddach, lawrlwythwch eich pecyn cymorth newydd - Gweithleoedd Gwyrddach ar gyfer Trawsnewid Cyfiawn. Beth am fwrw golwg ar dudalen ein hymgyrch hefyd lle mae fideos yr ymgyrch a rhagor o wybodaeth ar gael.

Cod ymddygiad

Mae’r TUC wedi ymrwymo i drefnu gweithgareddau y gall pawb gymryd rhan ynddyn nhw mewn amgylchedd cynhwysol, parchus a diogel. Dydy'r TUC ddim yn goddef unrhyw fath o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol. Ni fydd ymddygiad neu sylwadau ymosodol, bygythiol, amharchus neu annerbyniol yn cael eu goddef. Mae hyn yn cynnal yr ymrwymiad a nodir yn rheolau’r TUC i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb ac i gael gwared ar bob math o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, rhagfarn a gwahaniaethu annheg. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob agwedd ar gyfathrebu mewn digwyddiad neu mewn cysylltiad ag ef, gan gynnwys postiadau ar gyfryngau cymdeithasol.  Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn ag ymddygiad rydych chi eisiau ei godi yna cysylltwch â ni ar e-bost: wtuc@tuc.org.uk

Hygyrchedd

Bydd capsiynau caeedig yn cael eu darparu yn y digwyddiad ar-lein hwn. Os oes gennych chi unrhyw anghenion hygyrchedd eraill y dylen ni fod yn gwybod amdanynt, cysylltwch â ni yn jrees@tuc.org.uk neu rhowch wybod i ni ar eich ffurflen gofrestru.