Patrôl TUC Cymru a TUC De-orllewin Lloegr - Mis Gweithwyr Ifanc
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Fri, 28 Mar 2025 - 18:00 to
Sun, 30 Mar 2025 - 17:00
Cost
Free
Trosolwg

This event has been postponed until the new year.

 

Mae Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Ifanc TUC Cymru a Rhwydwaith Trefnwyr Ifanc TUC De-orllewin Lloegr yn edrych ymlaen at eich gwahodd i ymuno â’n digwyddiad deuddydd ar y cyd ar gyfer Mis Gweithwyr Ifanc.

Yn dilyn peilot y Patrolau Haf Norwyaidd yng Nghymru a De-orllewin Lloegr, rydyn ni’n gwahodd ymgyrchwyr ifanc undebau llafur i ddod at ei gilydd o’r naill ochr a’r llall i’r ffin i siarad â gweithwyr ifanc ym maes lletygarwch a manwerthu am eu hawliau a’u gwaith.

Bydd ein digwyddiad deuddydd yn cynnwys:

  • Cymryd rhan mewn 2 sesiwn patrôl, lle byddwch chi mewn grwpiau yn mynd i weithleoedd ac yn cyfweld â phobl ifanc am eu profiadau o waith. Byddwn yn dechrau yng Nghaerdydd ac yn teithio i Fryste y diwrnod canlynol.
  • Gweithdai, rhwydweithio a digwyddiadau cymdeithasol gydag ymgyrchwyr ifanc undebau llafur ledled Cymru a De-orllewin Lloegr.

Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu, felly does dim angen i chi fod wedi cymryd rhan yn Newid nac mewn patrôl o’r blaen.

Bydd cludiant rhwng Bryste a Chaerdydd, a Chaerdydd a Bryste yn cael ei drefnu i’r rheini sy’n cymryd rhan.

Bydd bwyd hefyd yn cael ei gynnwys fel rhan o’r amserlen.

Lleoliad: Caerdydd/Bryste

Dyddiad:  23ain a 24ain Tachwedd 2024

Siaradwch â’ch undeb am unrhyw gyllid ychwanegol a chael eich rhyddhau.

 

Gwybodaeth am Newid/Patrôl

Yn ystod haf 2023/24, roedd nifer o gynrychiolwyr ifanc undebau llafur o’r DU wedi cael eu gwahodd i Batrôl Haf Norwyaidd i ddeall sut mae undebau llafur Norwy yn trefnu ymgyrchwyr ifanc undebau llafur.

Mae Patrôl Haf LO yn ymgyrch flynyddol yn Norwy sy’n trefnu ac yn hyfforddi aelodau ifanc o undebau llafur i fynd allan i weithleoedd a siarad â phobl ifanc am eu hawliau yn y gwaith. Mae’r patrolau’n cael eu cynnal yn flynyddol ac maent wedi cael eu cynnal ers dros 40 mlynedd.

Yn dilyn partneriaeth a chefnogaeth barhaus LO Norwy, mae nifer o ranbarthau a Chymru yn y DU wedi mynd ymlaen i sefydlu eu fersiynau eu hunain o’r Patrôl Haf Norwyaidd.

Yn 2023, lansiodd Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Ifanc TUC Cymru Newid! Gweithgaredd sy’n ceisio cyrraedd gweithwyr ifanc mewn gweithleoedd nad ydynt yn cydnabod undeb. Mae Newid yn defnyddio gweithgarwch yr ymgyrch i ganfod tueddiadau ym mhrofiad gweithwyr ifanc, llywio ymgyrchoedd parhaus a siarad â gweithwyr ifanc am waith undebau llafur.

Hygyrchedd

We want everyone attending TUC events to have a safe and enjoyable experience. If you require any adjustments or assistance to participate at this event, please let us know.