i
fizkes (Istock)
Partneriaeth Gymdeithasol - cwrs i gynrychiolwyr undebau
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Tue, 12 Nov 2024 - 09:00 to
Tue, 19 Nov 2024 - 16:30
Cost
Am ddim
Trosolwg

Bydd y cwrs deuddydd newydd hwn yn grymuso cynrychiolwyr i ddefnyddio’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus newydd er budd aelodau. Bydd yn helpu i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder perthnasol i ddatblygu partneriaeth gymdeithasol effeithiol yn eich gweithle.

Bydd y cwrs yn edrych ar yr heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol a bydd cynrychiolwyr yn cael cyfle i ddatblygu cynllun gweithredu ymarferol ar gyfer eu gweithle.

Bydd y cwrs yn eich helpu gyda’r canlynol:

  • Deall sut mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn annog sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus i gydweithio

  • Archwilio pedair egwyddor sylfaenol partneriaeth gymdeithasol, caffael cymdeithasol gyfrifol, gwaith teg a datblygu cynaliadwy

  • Ystyried swyddogaethau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gan gynnwys rôl undebau llafur

  • Deall Dyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol a chyfraniad undebau llafur wrth bennu amcanion llesiant mewn cyrff cyhoeddus

  • Penderfynu ar y cyfleoedd trefnu sydd gan undebau wrth iddynt ymgysylltu â’r gwaith o osod amcanion llesiant, gan gynnwys sut mae cyflogwr corff cyhoeddus yn ceisio cyflawni’r amcanion hynny

  • Archwilio sut gall undebau ddylanwadu ar strategaeth gaffael cyflogwr corff cyhoeddus drwy bartneriaeth

 

Mae'r cwrs ar gael ar-lein ac wyneb yn wyneb ar y dyddiadau canlynol:

  • 2 ddydd Llun o 16 Medi ymlaen - wyneb yn wyneb - Casnewydd, campws Heol Nash drwy Ganolfan Astudiaethau Undebau Llafur Coleg Gwent
  • 2 ddydd Mawrth o 12 Tachwedd ymlaen - ar-lein (MS Teams) drwy Ganolfan Astudiaethau Undebau Llafur Dysgu Oedolion Cymru
  • 2 ddydd Mercher o 15 Ionawr ymlaen - ar-lein (MS Teams) drwy Ganolfan Astudiaethau Undebau Llafur Coleg Gwent
  • 2 ddydd Mawrth o 18 Mawrth ymlaen - ar-lein (MS Teams) drwy Ganolfan Astudiaethau Undebau Llafur Dysgu Oedolion Cymru
 
Pwy ddylai ddod?

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio’n bennaf ar gyfer cynrychiolwyr undebau llafur sy’n gweithio mewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru sy’n dod o dan gwmpas Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Mae rhestr o’r cyrff cyhoeddus sy’n dod o dan y Ddeddf ar gael yma: https://www.llyw.cymru/deddf-llesiant-cenedlaethaur-dyfodol-cymru-2015-yr-hanfodion-html

Gallai’r cwrs hefyd fod o ddiddordeb i gynrychiolwyr eraill sy’n dymuno dysgu mwy am weithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Mae croeso i unrhyw gynrychiolydd o undeb sy’n gysylltiedig â’r TUC ymuno â’r cwrs, ond mae rhan sylweddol o’r cwrs yn canolbwyntio’n benodol ar y Ddeddf a sut mae’n berthnasol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru.

 

Sut i gadw lle ar y cwrs?

Gallwch wneud cais ar-lein i gadw lle ar eich cwrs dewisol. Nodwch y dyddiadau a darparwr y cwrs o’ch dewis er mwyn i ni allu cyfeirio eich cais i’r lle cywir.

 
Lleoliad
Partneriaeth Gymdeithasol - cwrs i gynrychiolwyr undebau

United Kingdom

Hygyrchedd

We want everyone attending TUC events to have a safe and enjoyable experience. If you require any adjustments or assistance to participate at this event, please let us know.