Lansio pecyn cymorth TUC Cymru - Gweithle gwyrddach ar gyfer trawsnewidiad cyfiawn
This event has ended
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Wed, 10 Feb 2021 - 14:00 to 15:00
Cyswllt
Cost
Free
Trosolwg

Mae TUC Cymru yn lansio pecyn cymorth newydd i gefnogi undebwyr llafur sy'n ymgyrchu dros weithleoedd gwyrddach a thrawsnewidiad cyfiawn i Gymru sero net.

Mae'r argyfwng hinsawdd a natur yn fater i undebau llafur. Ymunwch â ni yn y digwyddiad hwn i drafod:

  • sut y gallwn drefnu ac ysgogi ar gyfer 'trawsnewidiad cyfiawn'
  • pam mae newid teg a chyflym i economi sero net yn hanfodol i weithwyr yng Nghymru a thu hwnt
  • pa gamau ymarferol y gallwn eu cymryd i greu gweithleoedd gwyrddach
  • sut i gael hyfforddiant newydd a pha gymorth sydd ei angen i adeiladu rhwydwaith o gynrychiolwyr gwyrdd undebau llafur yng Nghymru

Bydd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys sesiwn Holi ac Ateb gyda siaradwyr gwadd.

Byddwn yn darparu Capsiynau Caeedig yn y cyfarfod hwn ond os oes gennych ofynion hygyrchedd ychwanegol, cysylltwch â wtuc@tuc.org.uk

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd:https://www.tuc.org.uk/TUCprivacy

Pwy ddylai mynychu'r digwyddiad? 

Mae'r digwyddiad wedi anelu at undebwyr llafur yng Nghymru gan gynnwys swyddogion, cynrychiolwyr, swyddogion y gangen, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr yr amgylchedd/gwyrdd a chynrychiolwyr dysgu undebau.  

Côd Ymddygiad

Mae’r TUC yn ymrwymedig i drefnu gweithgareddau lle y gall pawb gyfrannu ynddyn nhw mewn amgylchedd cynhwysol, parchus a diogel.  Nid oes gan y TUC unrhyw oddefgarwch tuag at unrhyw fath o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol.  Ni fydd unrhyw ymddygiadau neu sylwadau ymosodol, sarhaus, bygythiol, amharchus neu annerbyniol yn cael eu goddef.  Mae hyn yn cefnogi’r ymrwymiad a osodwyd yn rheolau’r TUC i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb a chael gwared â phob ffurf o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, rhagfarn a gwahaniaethu annheg.  Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob agwedd o gyfathrebu mewn digwyddiad neu mewn cysylltiad â digwyddiad, gan gynnwys postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.  Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn ag ymddygiad yr ydych chi’n dymuno eu trafod, cysylltwch â ni drwy e-bost os gwelwch yn dda: wtuc@tuc.org.uk