Rydym yn cynnal cynhadledd undydd ar-lein ar gyfer Cynrychiolwyr Dysgu Undebau a’r rheini sydd â diddordeb yn y rôl.
Bydd y gynhadledd yn edrych ar rôl Cynrychiolydd Dysgu Undebau (CDU) gan ystyried y byd gwaith sy’n newid.
Mae gan ddysgu yn y gweithle rôl gynyddol bwysig i’w chwarae i ymateb i’r heriau sy’n codi yn sgil materion fel patrymau gwaith sy’n newid, cydraddoldeb yn y gweithle, awtomeiddio a datgarboneiddio, heb sôn am yr argyfwng cyflogaeth a achosir gan Covid-19. Bydd angen i rôl y CDU addasu i’r newidiadau hyn hefyd.
Bydd y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau, cyfweliadau a gweithdai.
Mae’r TUC yn ymrwymedig i drefnu gweithgareddau lle y gall pawb gyfrannu ynddyn nhw mewn amgylchedd cynhwysol, parchus a diogel. Nid oes gan y TUC unrhyw oddefgarwch tuag at unrhyw fath o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol. Ni fydd unrhyw ymddygiadau neu sylwadau ymosodol, sarhaus, bygythiol, amharchus neu annerbyniol yn cael eu goddef. Mae hyn yn cefnogi’r ymrwymiad a osodwyd yn rheolau’r TUC i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb a chael gwared â phob ffurf o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, rhagfarn a gwahaniaethu annheg. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob agwedd o gyfathrebu mewn digwyddiad neu mewn cysylltiad â digwyddiad, gan gynnwys postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn ag ymddygiad yr ydych chi’n dymuno eu trafod, cysylltwch â ni drwy e-bost os gwelwch yn dda: wtuc@tuc.org.uk