Cwrs Newydd: Gwneud ein gweithleoedd yn fwy gwyrdd - ‘Sgiliau gwyrdd’ i undebwyr llafur
This event has ended
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Mon, 31 Jan 2022 - 09:15 to
Mon, 14 Feb 2022 - 16:45
Cost
Am ddim
Trosolwg

Hyd y cwrs:

3 diwrnod o ddysgu (1 diwrnod yr wythnos dros gyfnod o 3 wythnos).

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal ar-lein ar 3 Dydd Llun yn olynol - 31 Ionawr, 7 a 14 Chwefror 2022 - bydd angen i ddysgwyr ddod i bob sesiwn.

Cyflwyno’r cwrs: 

Sesiynau grŵp ar-lein, wedi’u hwyluso gan diwtor addysg undebau llafur drwy Microsoft Teams.

Pwy ddylai ddod?

Mae’r cwrs wedi’i anelu at gynrychiolwyr gwyrdd/amgylcheddol newydd a phrofiadol yn ogystal ag undebwyr llafur eraill sydd am weithredu ar yr argyfwng hinsawdd a natur yn eu gweithle. Mae’n addas i bob swyddog undeb, swyddogion y gangen, cynrychiolwyr, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr dysgu undebau a chynrychiolwyr cydraddoldeb sy’n dymuno dysgu mwy am ddull undebau llafur o ymdrin â chynaliadwyedd.

Disgrifiad o’r Cwrs:

Bydd newidiadau yn effeithio ar weithwyr ar draws pob sector, a byddan nhw’n rhan o’r ymdrech i ddatgarboneiddio a symud Cymru tuag at economi gylchol, fwy cynaliadwy a diwastraff. Ac mae gan aelodau undebau llafur yr wybodaeth a’r syniadau i helpu i ddarparu’r newidiadau sydd eu hangen.

Mae gan weithwyr lawer iawn o wybodaeth a all helpu sefydliadau sy’n ceisio lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Yn aml iawn, y gweithwyr ar lawr gwlad sy’n fwyaf tebygol o ddeall sut mae gwneud hyn yn effeithiol. Mae’n bosib i undebau llafur chwarae rôl allweddol o ran nodi a darparu’r arferion amgylcheddol gorau mewn gweithleoedd. 

Gall undebau sicrhau bod ymdrechion i leihau effaith amgylcheddol sefydliad yn cael eu datblygu ar y cyd â’r gweithwyr, a drwy ymgynghori’n llawn â nhw. Gall cynnwys gweithwyr yn y penderfyniadau sicrhau bod unrhyw newidiadau’n deg, yn effeithiol, a bod y gweithwyr yn eu cefnogi gant y cant.

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar y sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ddatblygu mentrau cynaliadwyedd o dan arweiniad undebau yn y gweithle. Mae’n cynnwys y sgiliau craidd sydd eu hangen ar undebwyr llafur sy’n dymuno gweithredu’n ymarferol ar gyfer yr amgylchedd yn eu gweithle neu sy’n dymuno dod yn gynrychiolydd ‘gwyrdd’ neu amgylcheddol undeb llafur.

Ledled Cymru mae cynrychiolwyr undeb eisoes yn gweithio gyda’u haelodau i wneud gweithleoedd yn fwy cynaliadwy. Maen nhw’n dod o hyd i ffyrdd o leihau carbon a lleihau gwastraff, yn ymgyrchu dros aer glanach ac yn creu mannau gwyrdd i gynnal byd natur. Mae’r cwrs hwn yn defnyddio pecyn newydd TUC Cymru, Gweithleoedd gwyrddach ar gyfer trawsnewid cyfiawn fel adnodd a’i nod yw cefnogi pob undebwr llafur sydd eisiau bod yn rhan o’r mudiad i wneud ein gweithleoedd yn fwy gwyrdd.

Mae’r cwrs yn ymdrin â’r canlynol:

Deall yr argyfwng gyda’r hinsawdd a’r amgylchedd, a nodi effaith hynny ar eich gweithle.

Gweithio gyda’r gangen ac aelodau i ganfod materion cynaliadwyedd y mae angen eu codi â’r rheolwyr.

Sut mae cynnal archwiliadau amgylcheddol yn y gweithle.

Sut mae adolygu a datblygu polisïau a chytundebau amgylcheddol y gweithle

Codi ymwybyddiaeth a hybu arferion gweithleoedd gwyrdd.

Sut mae gwneud cais:

Ceisiadau i: John James, Canolfan Astudiaethau Undebau Llafur, Coleg Gwent
Ffôn: 07527 450276

E-bost: John.James@coleggwent.ac.uk
Lleoliad: ar-lein

Oriau: 9.15am tan 16.45pm

Amser o'r gwaith i fynychu hyfforddiant:

Ceir canllawiau ar ryddhad gyda thâl ar dudalennau 6 - 7 yng nghyfeiriadur cyrsiau addysg TUC Cymru.

Mae canllawiau ACAS yn nodi ei bod yn arfer da i gyflogwyr gynnig amser o’r gwaith gyda thâl i gynrychiolwyr arbenigol fel cynrychiolwyr gwyrdd neu amgylcheddol fynychu hyfforddiant a chyflawni eu dyletswyddau. 

Siaradwch â'ch undeb eich hun i gael cyngor am gael amser o'r gwaith ac am arweiniad ar unrhyw gytundebau/gweithdrefnau perthnasol y cytunwyd arnynt rhwng eich cyflogwr a'ch undeb.

Hygyrchedd

Profiadau dysgu cynhwysol a hwylus:

Efallai y bydd gan gynrychiolwyr sy'n dilyn y cyrsiau amrywiaeth o wahanol ofynion dysgu, boed hynny oherwydd nad ydynt wedi bod mewn amgylchedd dysgu ffurfiol ers peth amser, neu o ganlyniad i rwystrau sy'n gysylltiedig ag anabledd neu anawsterau llythrennedd a sgiliau eraill. Ar ein cyrsiau, rydyn ni'n gwneud ein gorau i wneud yn siŵr bod pawb yn gallu cymryd rhan lawn ac elwa cymaint ag y bo modd ar yr hyfforddiant.

Byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol i'n lleoliadau/dulliau darparu, ein dulliau addysgu a'n deunyddiau er mwyn darparu ar gyfer cynrychiolwyr anabl. Gofynnwn i chi roi cymaint o rybudd â phosib i ni er mwyn i ni allu bodloni eich anghenion.