Cwrs Cynrychiolwyr Amgylcheddol (Gwyrdd) TUC Cymru
This event has ended
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Thu, 25 Feb 2021 - 09:15 to
Thu, 11 Mar 2021 - 16:45
Cost
Am ddim
Trosolwg

Bydd newidiadau yn effeithio ar weithwyr ar draws pob sector a byddan nhw’n rhan o’r ymdrech i ddatgarboneiddio a symud Cymru tuag at economi gylchol, fwy cynaliadwy a diwastraff. Ac mae gan aelodau undebau llafur yr wybodaeth a’r syniadau i helpu i ddarparu’r newidiadau sydd eu hangen.

Mae gan weithwyr lawer iawn o wybodaeth a all helpu sefydliadau sy’n ceisio lleihau eu heffaith amgylcheddol. Yn aml iawn, y gweithwyr ar lawr gwlad sy’n fwyaf tebygol o ddeall sut mae gwneud hyn yn effeithiol.   Mae’n bosib i undebau llafur chwarae rôl allweddol o ran nodi a darparu’r arferion amgylcheddol gorau mewn gweithleoedd.

Gall undebau sicrhau bod ymdrechion i leihau effaith amgylcheddol sefydliad yn cael eu datblygu ar y cyd â’r gweithwyr, a drwy ymgynghori’n llawn â nhw. Gall cynnwys gweithwyr yn y penderfyniadau sicrhau bod unrhyw newidiadau’n deg, yn effeithiol, a bod y gweithwyr yn eu cefnogi gant y cant.

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar y sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ddatblygu mentrau cynaliadwyedd o dan arweiniad undebau yn y gweithle.  Mae’n cynnwys y sgiliau craidd sydd eu hangen ar undebwyr llafur sy’n dymuno gweithredu’n ymarferol ar gyfer yr amgylchedd yn eu gweithle neu sy’n dymuno dod yn gynrychiolydd ‘gwyrdd’ neu amgylcheddol undeb llafur.

Ledled Cymru mae cynrychiolwyr undeb eisoes yn gweithio gyda’u haelodau i wneud gweithleoedd yn fwy cynaliadwy. Maen nhw’n canfod ffyrdd o leihau carbon a lleihau gwastraff, yn ymgyrchu dros aer glanach ac yn creu mannau gwyrdd i gefnogi byd natur. Bydd y cwrs hwn yn cefnogi’r holl undebwyr llafur sy’n dymuno bod yn rhan o'r ymgyrch i wneud ein gweithleoedd yn fwy gwyrdd.

Mae’r cwrs yn ymdrin â’r canlynol:

Deall yr argyfwng hinsawdd ac amgylcheddol a nodi effaith hynny ar eich gweithle

Gweithio gyda’r gangen ac aelodau i ganfod materion cynaliadwyedd y mae angen eu codi â’r rheolwyr

Sut mae cynnal archwiliadau amgylcheddol yn y gweithle

Sut mae adolygu a datblygu polisïau a chytundebau amgylcheddol y gweithle

Codi ymwybyddiaeth a hybu arferion gweithleoedd gwyrdd

Hyd y cwrs

25th February to 11th March 2021

3 days’ worth of learning.

Pwy ddylai fynychu: yr holl undebwyr llafur sy’n dymuno gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd ac amgylcheddol yn eu gweithle, gan gynnwys swyddogion undeb, swyddogion cangen, cynrychiolwyr, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr dysgu undebau, cynrychiolwyr cydraddoldeb.

Sut i wneud cais:

Ceisiadau i: John James, Trade Union Studies Centre, Coleg Gwent

Ffon: 07527 450276

Ebost: John.James@coleggwent.ac.uk

Lleoliad: ar-lein

Oriau: 9.15am to 16.45pm