Coronafeirws yn y gwaith: cefnogi cydweithwyr mewn perygl o gael eu diswyddo
This event has ended
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Wed, 08 Apr 2020 - 11:15 to 12:00
Trosolwg

Mae gweithwyr yng Nghymru mewn perygl o gael eu diswyddo oherwydd effaith economaidd coronafeirws. Gall darparu cyngor a chymorth cywir i weithwyr fod yn fwy anodd yn ystod yr argyfwng.

Yn ein gweminar ar 8 Ebrill am 11.15yb byddwn yn clywed gan Sian Clarke, cyfreithiwr cyflogaeth o Slater a Gordon, a Deri Bevan, Swyddog Cefnogi Dysgu drwy Undebau TUC Cymru.

Byddwn yn trafod:

  • Sut i gefnogi eich cydweithwyr sydd mewn perygl o golli eu swyddi
  • Sut i ddweud wrth weithwyr beth yw eu hawliau yn ystod yr argyfwng, hefyd diffiniadau o’r termau sy'n cael eu defnyddio
  • Sut i sicrhau bod eich cyflogwr yn dilyn y weithdrefn gywir ar gyfer diswyddo rhywun
  • Y cymorth sydd ar gael i weithwyr yng Nghymru drwy raglenni fel ReAct a Working Wales, a sut i gael gafael arnynt yn ystod yr argyfwng
  • Y cymorth sydd ar gael gan undebau llafur yng Nghymru ar gyfer gweithwyr sydd dan fygythiad o gael eu diswyddo.

Cofrestrwch yma: https://www.crowdcast.io/e/fa327f69/register